Dim angen i Gyngor Môn gau ysgolion bach – Gweinidog

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes rhaid i gynghorau fel Ynys Môn gau tair ysgol fach er mwyn sicrhau arian ar gyfer adeiladau ysgol newydd.  

Wrth siarad yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, 25ain Ebrill) mewn ymateb i Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth, dywedodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Addysg Cymru, nad oedd yn "ymwybodol o geisiadau sy'n ddibynnol ar yr angen i gau ysgolion...". Ychwanegodd fod yr arian ar gyfer cynllun buddsoddi Llywodraeth Cymru mewn adeiladau ysgol, rhaglen ysgolion  21ain ganrif, ar gael i "adeiladu ysgolion newydd, adeilad newydd i ysgol bresennol yn ogystal ag ysgolion newydd-gyfansoddedig".  Cyn datganiad yr Ysgrifennydd Addysg, dadleuai swyddogion y Cyngor eu bod yn gorfod cau'r ysgolion gwledig er mwyn cael cyllid ar gyfer adeiladau newydd o'r gronfa.  

Meddai Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae'r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau nad oes rhaid i Gyngor Ynys Môn gynnwys unrhyw gynllun i gau ysgolion pentref er mwyn sicrhau cyllid o'r gronfa. Galwn ar y Pwyllgor Gwaith i wneud cais yn syth am gyllid felly i adeiladu ysgol newydd i'r nifer cynyddol o ddisgyblion o dre Llangefni ac am uwchraddio adeiladau ysgolion pentref Bodffordd, Henblas a Thalwrn. Rydyn ni'n ddiolchgar hefyd fod y Gweinidog wedi cadarnhau y daw'r Côd newydd i ddiogelu ysgolion gwledig i rym yn yr Hydref. Dyna'r amser felly i'r Pwyllgor Gwaith ystyried yr ysgolion pentref gyda phosibiliad arian o'r gronfa ganolog tuag at greu Ffederasiwn Ysgolion Ardal Llangefni a fyddai'n uned addysgol gref tra'n cadw'r addysg oddi fewn i'r cymunedau a chefnogaeth rhieni a phobl leol i addysg y plant."