Dim Cymraeg ar Radio Ceredigion?

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw eto am ddatganoli darlledu wrth fynegi pryder y gall fod hyd yn oed llai o Gymraeg ar Radio Ceredigion, yn dilyn adroddiadau bod y perchennog wedi gwrthod adnewyddu ei drwydded yn awtomatig.  

Yn ôl adroddiadau yn y wasg, gallai'r cwmni, drwy adael i'r drwydded ddirwyn i ben, ail-ymgeisio am drwydded gyda fformat gwahanol, megis un gyda llai o oriau Cymraeg. Yn 2012, gwrthododd Nation Radio (o dan ei enw blaenorol Town and Country) adnewyddiad awtomatig o’i drwydded gan lwyddo wedyn i adennill y drwydded gan Ofcom gyda llai o oriau o ddarlledu Cymraeg.  

Ofcom sydd yn  rheoleiddio radio lleol drwy wledydd ynysoedd Prydain ond mae Cymdeithas yr Iaith yn gweld datganoli rheoleiddwyr radio lleol fel un o'r camanu cyntaf tuag at ddatganoli darlledu i Gymru. 

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith 

"Mae'n gwbl amlwg nad yw'r system ddarlledu dan reolaeth San Steffan yn cael ei chynnal er lles Cymru, ond er lles elw cwmnïau mawrion. Datganoli darlledu yw'r unig ateb." 

"Dwi ddim yn ystyried Radio Ceredigion fel gorsaf Gymraeg fel y mae, heb sôn am y posibiliad o hyd yn oed llai o gynnwys lleol drwy'r newid i'r drwydded. Mae Llywodraeth Prydain wrthi'n ceisio llacio rheoleiddio yn bellach – gyda dim gofyniad i radio masnachol gynnwys newyddion cenedlaethol am Gymru na darlledu yn Gymraeg. Mae gwir angen datganoli darlledu i Gymru i atal y Torïaid yn Llundain rhag dinistrio darlledu Cymraeg a Chymreig."