Dim ffilmiau Cymraeg yn derbyn cefnogaeth drwy gronfa £30 miliwn

 

Mae mudiad iaith wedi gofyn am newidiadau wedi iddi ddod i'r amlwg nad yw'r un ffilm neu raglen deledu Cymraeg wedi derbyn benthyciad drwy gronfa buddsoddi Llywodraeth Cymru werth £30 miliwn.  

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth diweddar, derbyniodd 15 ffilm a rhaglen deledu benthyciad o'r gronfa 'Buddsoddi  yn y Cyfryngau' - a sefydlwyd yn 2014 sy'n werth £30 miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd -  ond nid oedd yr un ohonyn nhw yn ffilmiau Cymraeg.  Mewn ymateb i gais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y llynedd, dywedodd Llywodraeth Cymru mai dim ond 0.57% o arian sydd wedi ei fuddsoddi yn ffilmiau Cymraeg.  

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi dod i gytundeb newydd 'cyfrinachol' gyda Pinewood Studios wedi iddynt wneud 'penderfyniad masnachol ...i dynnu yn ôl o reoli cyllid cronfeydd trydydd parti'. 

Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru, meddai Aled Powell o Gymdeithas yr Iaith: 

"Mae'n fater o gryn siomedigaeth bod Llywodraeth Cymru yn gallu ffafrio'r Saesneg i'r fath raddau, yn enwedig gan ystyried y dalent a gallu i greu ffilmiau Cymraeg o'r safon uchaf yn y Gymraeg.  Mae'r buddsoddiad yn y Saesneg yn sylweddol iawn iawn, ac mae'n wir yn slap yn y wyneb i'r rheini sydd eisiau cynhyrchu ffilmiau yn Gymraeg, y diwydiant ffilm a theledu Cymraeg a chefnogwyr y Gymraeg yn fwy cyffredinol. Ni ellid tanamcangyfrif pwysigrwydd y cyfrwng ffilm fel ffordd o hybu diwylliannau, yn enwedig diwylliannau lleiafrifedig fel rhai cyfrwng Cymraeg.    

"Gofynnwn i chi felly ddatgan nad ydych chi'n fodlon â'r ffigurau hyn ac eich bod yn mynd i gymryd camau er mwyn unioni'r sefyllfa yma dros y blynyddoedd nesaf.   

"Awgrymwn eich bod yn clustnodi o leiaf 50% o'r gyllideb "Buddsoddi yn y Cyfryngau", fel rhan o gynllun ar wahân, ar gyfer prosiectau Cymraeg eu hiaith. Gallai cronfa o'r fath fod yng ngofal corff, megis Awdurdod S4C, er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad mor llesol i'r Gymraeg a holl gymunedau Cymru ag y gallai fod. "