Dim Twitter Cymraeg? Pryder mudiad iaith

Mae pryder na fydd modd defnyddio rhyngwyneb Twitter yn Gymraeg wedi i'r cwmni atal gwirfoddolwyr rhag ei gyfieithu drwy eu gwefan.  

Mae'r cwmni wedi cyhoeddi mewn neges Saesneg i'r cyfieithwyr gwirfoddol: "gyda diolch diddiwedd am eich cyfraniadau, hoffwn gyhoeddi y bydd mynediad i'r cyhoedd yn cau ar 30 Tachwedd 2017" 

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ysgrifennu at Twitter er mwyn mynegi pryder am y datblygiad gan ofyn am sicrwydd gan y cwmni y bydd y cyfwng cymdeithasol yn gweithredu'n Gymraeg yn fuan.  

Meddai Aled Powell, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith: 

"Rydym yn mawr obeithio nid dyma'r diwedd ar y gwaith a'r gobaith o weld Twitter ar gael yn Gymraeg. Roedd yna rhai problemau gyda'r system ac mae'n bosib mai datrysiad yw hyn gan Twitter i ddiogelu'r gwaith gan rwystro "mynediad i'r cyhoedd". Mi fyddai'n dda gweld y gwaith yn parhau mewn modd mwy trefnus.  

"Wrth ystyried holl waith y gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi oriau, dyddiau a hyd yn oed wythnosau o'u hamser i gyfieithu Twitter, mi fyddai'n sarhad peidio bwrw ymlaen. Mae'r galw a'r angen am i Twitter fod ar gael yn Gymraeg ac i fusnesau medru hyrwyddo trydariadau Cymraeg yn fwy nag erioed." 

Mae ystadegau Indigenous Tweets yn dangos bod dros 14,200 o gyfrifon Twitter yn defnyddio'r Gymraeg ac wedi cyfansoddi yn agos i 5.7 miliwn o drydariadau ar y cyfrwng rhyngwladol. Mae'r Gymraeg yn amlwg yn nhrydariadau nifer o bobol adnabyddus, sefydliadau Cymreig ac mae cwmnïau rhyngwladol fel Adidas a Carlsberg hefyd wedi trydar yn Gymraeg.