Diolch i gyngor Sir Gâr am ddangos arweiniad

Wrth ymateb i benderfyniad Cyngor Sir Gaerfyrddin i gymeradwyo argymhelliad i newid ysgol Llangennech i fod yn ysgol Gymraeg dywedodd David Williams, is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn rhanbarth Caerfyrddin:
"Rydyn ni'n ddiolchgar i Gyngor Sir Gaerfyrddin am ddangos arweiniad wrth ddechrau sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn y sir yn cael ei amddifadu o addysg Gymraeg. Galwn nawr am symud ymlaen yn gyflym, heb rwystr pellach, i sicrhau fod pob plentyn yn datblygu'r sgil i weithio'n Gymraeg a Saesneg. Mae rhoi ysgolion ar y ffordd i ddod yn ysgolion Cymraeg gydag amser yn un o gamau gweithredu strategaeth Gweithgor Cyfrifiad y Cyngor felly rydyn ni'n awyddus nawr i weld cynllun ar gyfer ysgolion eraill y sir.
"Bydd addysg Gymraeg yn sail i'n plant barhau i fyw eu bywydau yn Gymraeg. Bu tueddiad dros y blynyddoedd diwethaf i adael y sir ar ôl gorffen eu haddysg ond rydyn ni'n awyddus i weld hynny'n newid. Byddwn ni'n trafod cynllunio dyfodol ein cymunedau mewn fforwm agored ar yr 28ain o Ionawr er mwyn creu cymunedau mae pobl eisiau ac yn gallu aros ynddynt.”

Mwy o wybodaeth am gyfarfod agored Tynged yr Iaith Sir Gâ: Cynllunio Dyfodol ein Cymunedau yma

Y stori yn y wasg:

Ysgol Llangennech: Ymgyrchwyr yn diolch i Gyngor Sir Gâr – Golwg 360 18/01/2017

Llangennech school to become Welsh medium – Herald Caerfyrddin 18/01/2017

Llangennech school pupils will be taught solely in Welsh from 1st of September – South Wales Evening Post 18/01/2017