Disgwyl trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ardd Fotaneg

Mae'r Prif Weinidog wedi anfon gweision sifil i drafod diffygion darpariaeth Gymraeg yr Ardd Fotaneg wedi i'r Aelod Cynulliad Simon Thomas godi'r mater gydag e.

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd wedi ysgrifennu nifer o gwynion at yr Ardd ac at Simon Thomas i godi'r ffaith bod yr Ardd yn gohebu yn uniaith Saesneg gyda darparwyr llety lleol, yn hysbysebu digwyddiadau ar arwyddion ffordd yn uniaith Saesneg a bod rhannau o'i gwefan yn uniaith Saesneg, wedi croesawu'r newyddion hyn.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Sgiliau a’r Iaith Gymraeg, Simon Thomas: “Rydyn ni yn croesawu fod y Llywodraeth yn cymryd yr achos yma o ddiffygion ynglŷn â darpariaeth yn yr iaith Gymraeg  o ddifri. Mae’r Ardd Fotaneg yn cael arian cyhoeddus felly mae’n ddyletswydd ar y sefydliad i sicrhau chwarae teg dros y Gymraeg. Mae’n bwysig yn Sir Gâr fod y Gymraeg yn weladwy. Sut mae pobl leol i fod i barchu'r Gymraeg os nad ydy sefydliadau fel yr Ardd Fotaneg yn ei pharchu hi?”

Wedi iddi ddod yn amlwg fod yr Ardd Fotaneg yn torri ei chynllun iaith galwodd Cymdeithas yr Iaith ar y Llywodraeth a Chyngor Sir Caerfyrddin i atal nawdd i'r Ardd nes iddi gadw at ei Chynllun Iaith.

Dywedodd Manon Elin, llefarydd hawliau iaith Cymdeithas yr Iaith, ac sydd hefyd yn byw yn Sir Gaerfyrddin:
"Rydyn ni wedi cael nifer o esgusodion gan yr Ardd, er iddynt fod yn dawedog yn ddiweddar. Maent yn honni bod problemau technegol gyda'r wefan - er nad yw hynny i weld yn effeithio ar yr ochr Saesneg, ac nad yw eu darpariaeth Gymraeg wedi ehangu wrth i’r Ardd ddatblygu. Rydyn ni'n dal i aros am ymateb i'n cais i gynnal cyfarfod â nhw hefyd.
“Er bod Carwyn Jones fel petai yn osgoi ei gyfrifoldebau drwy ddweud mai lle Comisiynydd y Gymraeg yw sicrhau bod yr Ardd yn cydymffurfio â'i Chynllun Iaith, mae'n addawol ei fod hefyd yn dweud y bydd swyddogion y Llywodraeth yn trafod â’r Ardd. Rydyn ni'n disgwyl cael diweddariad am y trafodaethau hynny, ac yn disgwyl gweld fod y Llywodraeth yn cymryd ei gyfrifoldeb tuag at y Gymraeg o ddifrif wrth ystyried pa sefydliadau cenedlaethol sy’n deilwng o nawdd.”

 
Y stori yn y wasg:
Officials to Visit Botanic Gardens over Language Concerns - South Wales Evening Post Mai 16