Diwedd ympryd dros ddatganoli darlledu o flaen y Senedd

Mae ymgyrchydd ifanc wedi gorffen ei ympryd saith diwrnod o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mawrth, 27ain Chwefror) gan apelio ar wleidyddion i roi ystyriaeth lawn i'r syniad o ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.

Mae Elfed Wyn Jones, ffermwr ifanc o Drawsfynydd sy'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, heb fwyta ers dydd Mawrth diwethaf fel rhan o'r ymgyrch dros drosglwyddo pwerau darlledu o San Steffan i Gymru. Daeth y digwyddiad ddiwrnod cyn dadl yn y Senedd ar y mater, a chyflwynodd yr ymgyrchydd lythyr o apêl i was sifil Llywodraeth Cymru.

Yn siarad ar ddiwedd ei gyfnod saith diwrnod heb fwyd, meddai Elfed Wyn Jones:

"Dydy hi ddim wedi bod yn hawdd. Ond dw i'n cymryd fy nghyfrifoldeb fel dinesydd Cymru sydd wedi sylweddoli pwysigrwydd hyn i ddyfodol ein democratiaeth ni a'n hiaith ni. Ac mae hynny wedi fy nghadw i fynd. Dw i'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gyrru negeseuon o gefnogaeth, maen nhw wedi rhoi nerth i fi. Dw i wir yn teimlo bod y mater yma'n dyngedfennol i'n democratiaeth ni yng Nghymru. Os nad ydy pobl yn cael y ffeithiau cywir am y bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn ein henw ni, os nad ydyn ni'n dallt sut maen nhw'n cael eu llywodraethu, mae democratiaeth Cymru dan fygythiad difrifol. Ar hyn o bryd mae llai na hanner y boblogaeth yn sylweddoli mai'r Senedd yng Nghaerdydd sy'n rheoli iechyd, er gwaethaf ugain mlynedd o ddatganoli. Er mwyn sicrhau atebolrwydd a chraffu digonol ar ein gwleidyddion, mae'n rhaid i benderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru."

"Dydy darlledu yn Gymraeg heb gael dim parch o gyfeiriad San Steffan, efo prin dim datblygu o ran sianeli radio a theledu Cymraeg na dim datblygu ym maes technoleg newydd ers degawdau. Mae cyllideb S4C o dan fygythiad parhaus a'r sianel yn cael ei gwthio i roi 'niferoedd gwylio' uwchlaw pob peth, ac erbyn hyn mae hi mewn peryg gwirioneddol o gael ei thraflyncu gan beiriant Seisnig y BBC."

Yn ôl canlyniadau arolwg gan YouGov y llynedd, mae 65% o bobl yn cefnogi rhoi’r cyfrifoldeb dros y cyfryngau yn nwylo’r Cynulliad tra bod dim ond 35% eisiau i wleidyddion yn San Steffan gadw’r grym. Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni bod mwyafrif Aelodau'r Cynulliad yn cefnogi datganoli rhai pwerau darlledu i Gymru: gyda nifer o wleidyddion o bob plaid wedi gwneud datganiadau cefnogol yn ddiweddar.

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Mae gweithred Elfed wedi ysbrydoli nifer fawr o bobl, ac wedi ysgogi sgwrs genedlaethol ehangach. Mae dros hanner cant o bobol Cymru eisoes yn gwrthod talu eu trwyddedau teledu fel rhan o'r ymgyrch hon. Mae nifer o Aelodau Cynulliad hefyd wedi dangos cefnogaeth i hyn dros y blynyddoedd. Maen bryd iddyn nhw nawr wneud rhywbeth am hyn, fel cynrychiolwyr y bobol ac fel arweinwyr ein gwlad – cymryd cyfrifoldeb, torchi llewys a dilyn ôl traed dewr Elfed a'r holl rai eraill sy'n barod i dorri cyfraith er mwyn hyn."

Mae adolygiad annibynnol o S4C wedi cael ei gyflwyno i'r Llywodraeth ers cyn y Nadolig, ond mae oedi rhag ei gyhoeddi yn golygu nad yw'r darlledwr yn gwybod beth fydd ei gyllideb o fis Ebrill eleni ymlaen. Yn 2013, daeth Comisiwn Silk – adolygiad trawsbleidiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Prydain – i'r casgliad y dylai rheolaeth dros gyfraniad ariannol Llywodraeth Prydain i S4C gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.