Diweddariad ar yr ymgyrch 'addysg Gymraeg i bawb'

Er gwaethaf adroddiadau cadarnhaol yn y wasg yr wythnos diwethaf, dydyn ni heb gael cadarnhad ar bapur gan y Llywodraeth y bydd y cymwysterau Cymraeg Ail Iaith yn cael eu disodli gan un cymhwyster Cymraeg cyfun i bob disgybl.

Wedi cyfweliad Gweinidog y Gymraeg ar Newyddion 9 nos Fercher diwethaf, ysgrifennon at Alun Davies AC gan ofyn am y cadarnhad syml ei fod yn bwriadu disodli'r cymwysterau Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl. Cawson ni ymateb sydyn i'n neges ddydd Gwener gan gynnig trafodaethau pellach, ond atebodd e ddim ein cwestiwn syml am ddisodli'r cymwysterau.

Ar hyn o bryd, polisi'r Llywodraeth yw dechrau cyflwyno cwricwlwm newydd yn 2018 ond gan barhau â'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith, cyfundrefn sy'n amddifadu 80% o'n pobl ifanc o'r iaith. Felly, bydd ein hymgyrch yn parhau.

Y cam nesaf yn yr ymgyrch fydd ein gwylnos nos yfory (nos Fawrth, 27ain Medi) ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd, mae croeso i chi ddod i aros dros nos neu i ddangos cefnogaeth am gwpl o oriau'n unig.

https://www.facebook.com/events/1588586608112635/

http://cymdeithas.cymru/digwyddiadau/colli-cwsg-dros-yr-80-gwylnos-dros-addysg-gymraeg-i-bawb

Diolch,

Toni Schiavone  

Cadeirydd, Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg