Dros 1,000 yn galw am ddatganoli darlledu i Gymru

Mae dros 1,000 o bobl yn galw am ddatganoli darlledu i Gymru, mewn deiseb a gyflwynwyd heddiw i Gadeirydd adolygiad annibynnol S4C. Yn ystod haf a hydref 2017, casglodd ymgyrchwyr dros 1,000 o lofnodion ar ddeiseb gyda'r geiriad canlynol: "Rydym yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli darlledu i Senedd Cymru." 


Cyflwynwyd y ddeiseb i Euryn Ogwen Williams sy'n arwain adolygiad S4C a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, wrth iddo gwrdd ag ymgyrchwyr wedi digwyddiad a drefnwyd gan y corff ymbarél Dathlu'r Gymraeg i drafod dyfodol darlledu Cymraeg. Wrth gyflwyno'r deiseb, dywedodd Aled Powell, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 
 

"Rhwng bygythiadau cyson i gyllid ac annibyniaeth S4C, rhaglenni fel Newsnight yn sarhau'r Gymraeg, a diffyg cynrychiolaeth ystyrlon o newyddion a phobl Cymru yn y cyfryngau, mae'n glir nad yw'r drefn bresennol yn gweithio. Yr unig ateb i hyn yn y pendraw yw datganoli darlledu i Gymru: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru.

"Yn ogystal â'r ddeiseb hon, mae arolygon barn yn glir bod y rhan helaeth o bobl Cymru yn cefnogi hynny. Mae ein hymchwil yn dangos y byddai modd ariannu'r cyfryngau wedi datganoli trwy ffi'r drwydded, cyllid uniongyrchol ac ardoll newydd ar gwmnïau mawrion. Byddai modd i Gymru, wedi i ni ddatganoli darlledu, nid yn unig gynyddu gwariant ar ein prif sianel deledu Cymraeg, ond yn ogystal ehangu'r ddarpariaeth i ragor o sianel, gorsafoedd a llwyfannau digidol."