Dwy flynedd ers adroddiad brys addysg Gymraeg - cacen pen-blwydd

 

Mae gwleidyddion wedi torri cacen pen-blwydd heddiw er mwyn nodi dwy flynedd ers cyhoeddi adroddiad a argymhellodd drawsnewid y ffordd y caiff y Gymraeg ei dysgu mewn ysgolion (10yb, Dydd Mawrth, 22 Medi) 

Yn ogystal â thorri'r gacen, mae pedwar gwleidydd, sy'n cynrychioli pob un blaid y Cynulliad, Keith Davies, Suzy Davies, Simon Thomas ac Aled Roberts, wedi rhyddhau datganiad ar y cyd sy'n galw ar i'r Llywodraeth weithredu ar adroddiad yr Athro Sioned Davies gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2013. Medd y datganiad trawsbleidiol: "Ar achlysur ail ben-blwydd cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies ar "Cymraeg Ail Iaith", gofynnwn i Lywodraeth Cymru roi sylw cadarnhaol i'r argymhellion wrth wneud cyhoeddiad am ddyfodol y cwricwlwm Cymreig. Credwn y dylai pob disgybl ddatblygu'r sgil i fedru gweithio a chyfathrebu'n Gymraeg a Saesneg."

Cafodd adroddiad yr Athro Davies ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i ystyried sefyllfa dysgu'r Gymraeg fel ail iaith. Ymysg argymhellion yr adroddiad 'Un Iaith i Bawb' roedd sefydlu continwwm dysgu'r Gymraeg er mwyn symud at gyflwyno fwyfwy o'r cwricwlwm drwy'r Gymraeg a hefyd sicrhau peth addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn. 

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymddangos gerbron pwyllgor cymunedau'r Cynulliad ddydd Iau i ateb cwestiynau am addysg Gymraeg ac adroddiad Yr Athro Davies. Wrth sôn am y datganiad trawsbleidiol, meddai Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Ddwy flynedd ers cyhoeddiad yr Athro Sioned Davies, ein hapêl at Carwyn Jones a Huw Lewis yw cydnabod mai methiant llwyr yw ystyried y Gymraeg fel "ail iaith" fel yr eglura'r adroddiad. Mae'r cliw yn y teitl "Un Iaith i Bawb". Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob disgybl, ac mae angen i'r llywodraeth gyhoeddi y bydd yn diddymu cysyniad Cymraeg Ail Iaith ac yn hytrach dysgu "Cymraeg" i bawb gan godi pob disgybl trwy wahanol lefelau o hyfedredd. Nid oes modd gwella model sydd wedi torri'n llwyr".  

"Mae'n amlwg fod consensws yng Nghymru fod angen dal ar y cyfle i sicrhau fod y cwricwlwm newydd yn grymuso pob disgybl gyda'r gallu i weithio'n Gymraeg, ac yr ydym yn falch iawn fod ACau o bob plaid wedi ymuno â ni wrth ddatgan hyn. Mae cyfle euraidd gan y Gweinidog Huw Lewis i sicrhau fod hyn yn digwydd wrth wneud cyhoeddiad mawr y mis nesaf am ddyfodol y cwricwlwm yn ysgolion Cymru. Disgwyliwn hefyd air gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yn y cyfarfod pwyllgor ddydd Iau fod y llywodraeth yn awr am weithredu wedi dwy flynedd o oedi."  

"Ni allai unrhyw un sydd wedi darllen adroddiad Yr Athro Sioned Davies ddod i unrhyw gasgliad ond bod angen chwyldroi’r system, yn hytrach na’i chadw. Y broblem sylfaenol o ran dysgu Cymraeg fel ail iaith yw nad oes fawr neb o ddisgyblion mewn ysgolion Saesneg eu cyfrwng yn medru gair o'r iaith ar derfyn y cwrs. Mewn geiriau eraill, mae’r gyfundrefn yn methu, er gwaethaf ymdrechion nifer o athrawon talentog yn y maes."  

Mae nifer fawr o arbenigwyr addysg a mudiadau eraill hefyd wedi galw ar i'r Llywodraeth sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies i symud at addysg Gymraeg i bob plentyn. Ymysg cefnogwyr yr ymgyrch mae David Crystal, Athro mewn Ieitheg Prifysgol Bangor ac awdur Cambridge Encyclopedia of Language, yr undeb athrawon UCAC, a Gethin Lewis, cyn-Brifathro a chyn ysgrifennydd Cenedlaethol N.U.T. Cymru.   

[Lluniau o'r digwyddiad torri cacen yn y Senedd]