Eithrio meddygfeydd o hawliau i'r Gymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn ystyried herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i eithrio gwasanaethau gofal sylfaenol, megis meddygfeydd, o unrhyw ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.   

[Cliciwch yma i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru]

Mewn adran ddehongli ymgynghoriad a lansiwyd yr wythnos ddiwethaf, datgelwyd na fyddai hawliau i'r Gymraeg gan y cyhoedd wrth ddelio â meddygfa a gwasanaethau sylfaenol eraill. Dywed y rheoliadau: "Pan fo’r trydydd parti yn ddarparwr gofal sylfaenol ... yna nid yw unrhyw safonau yn gymwys." 

Ysgrifennodd Comisiynydd y Gymraeg ei hadroddiad cyntaf am ddiffyg ddarpariaeth Gymraeg mewn meddygfeydd a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill a ddywedodd: "Rwyf wedi fy mrawychu o glywed rhai profiadau dirdynnol siaradwyr Cymraeg ac aelodau o’u teuluoedd o fethu â chael gwasanaeth iechyd addas i’w hanghenion."  Mewn adroddiad arall am dyletswyddau iaith ym maes iechyd, gwnaeth argymhelliad penodol i Lywodraeth Cymru gan ddatgan: "Gan mai gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf mwyafrif aelodau’r cyhoedd gyda’r gwasanaeth iechyd, ... [mae'n] hanfodol sicrhau cysondeb ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd ..." 

Mewn llythyr at Weinidog y Gymraeg, mae Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith yn rhybuddio Llywodraeth Cymru y gall fod her gyfreithiol i'w penderfyniad: 

"Mae mannau gwan o bwys sylweddol i ddefnydd y cyhoedd o'r Gymraeg yn y rheoliadau hyn. Fel y maent, ni fyddai unrhyw hawliau gan y cyhoedd wrth ymwneud â'u meddygfa leol, sef y prif gyswllt gyda'r gwasanaeth iechyd yn y rhan fwyaf o achosion. Mae cwynion di-ri am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg elfennol ym maes gofal sylfaenol, o ddiffyg gwasanaeth derbynfa Cymraeg, diffyg staff sy'n siarad Cymraeg i ddiffyg arwyddion a gwefannau Cymraeg."  

"Yn lle cryfhau hawliau pobl i'r Gymraeg wrth ymwneud â'u meddygfa leol a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, mae'ch rheoliadau yn gadael pobl ar lawr gwlad mewn sefyllfa hollol anobeithiol pan ddaw hi at ddelio â rheng flaen y gwasanaeth iechyd.  

"Mae pobl yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd pan maent ar eu mwyaf bregus, felly mae'n hanfodol bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei siarad. Prin bod y Safonau'n gwneud unrhyw beth i newid y sefyllfa, oherwydd eich penderfyniad i wanhau'r rheoliadau presennol sydd eisoes yn weithredol ar gyfer cynghorau, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru....  

"[C]redwn nad ydych chi wedi rhoi sylw dyladwy, fel sy'n ofynnol i chi ei wneud o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i ddau adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch gofal sylfaenol wrth lunio'r ymgynghoriad hwn.  ... credwn eich bod wedi dod i gasgliad cwbl afresymol... 

"Mae'r Safonau hyn yn gyfle i fynd i'r afael â'r problemau enbyd sydd yn y gwasanaethau iechyd o ran diffyg gwasanaethau a thriniaeth yn Gymraeg. Fodd bynnag, ni fanteisiwyd ar y cyfle hwn i wella'r gofal i siaradwyr Cymraeg gan nad yw'r Safonau arfaethedig yn cynnwys gwasanaethau iechyd sylfaenol. Mae'r ymgynghoriad yn un a fydd yn effeithio ar filoedd ar filoedd o bobl, yn eu plith y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Byddwn yn ystyried pob opsiwn sydd gyda ni felly, er mwyn sicrhau bod gan bobl hawliau cadarn a chyflawn yn y maes hollbwysig hwn." 

Yn ogystal ag ystyried opsiynau i herio dogfen y Llywodraeth, mae Cymdeithas yr Iaith yn annog pobl i ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth sy'n cau ar 14eg Hydref 2016 drwy fynd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Yn y wasg:

Daily Post

Cymru Fyw

Golwg360