Enw Saesneg ar Senedd Cymru – colli cyfle i normaleiddio'r Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y byddai gwleidyddion Cymru yn 'colli cyfle i normaleiddio defnydd y Gymraeg' pe na fyddent yn mabwysiadu'r enw uniaith Gymraeg, Senedd, yn dilyn awgrym gan grwp o wleidyddion y dylai fod enw dwyieithog newydd 

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Byddent yn colli cyfle o ran normaleiddio'r Gymraeg pe byddent yn penderfynu mabwysiadu enw dwyieithog yn lle un uniaith Gymraeg. Mae'r gair 'Senedd' yn un mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn ei ddeall a'i gefnogi'n barod. Yn wir, mae'r enw eisoes yn cael ei ddefnyddio'n eang ymysg siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg. Byddwn yn ystyried pa gamau i'w cymryd o ran ceisio dylanwadu ar gynnwys y gyfraith  

"Byddai mabwysiadu enw uniaith Gymraeg yn gyfle i herio'r camsyniad nad yw'r Gymraeg yn iaith sy'n gallu cynnwys pawb, o bob cefndir. Ac yn gyfle i ddatgan y gallwn ni fod yn Gymru unedig mewn un iaith, waeth beth ein cefndir neu iaith gyntaf. Mae nifer o sefydliadau sydd ag enwau uniaith Gymraeg yn barod - o Chwarae Teg i’r Urdd, o Ferched y Wawr i’r Mudiad Meithrin. Yn wir, os ydyn ni am feithrin ein plant bach gyda’r Gymraeg ar eu tafodau, oni ddylen ni feithrin ein democratiaeth yn yr un modd? 

"Wrth reswm, mae perygl mewn defnydd tocenistaidd o'r Gymraeg yn unig; dylai hyn fod yn rhan o becyn o normaleiddio'r Gymraeg fel prif iaith y Senedd a'r wlad yn gyffredinol. Rydyn ni eisoes wedi cwrdd â'r Llywydd i drafod sut i wella defnydd o'r Gymraeg yn ein corff democrataidd cenedlaethol."