Galw am ddiswyddo golygydd Newsnight wedi ei ymateb i gwynion

Datganoli darlledu yw'r unig ateb parhaol, medd Cymdeithas  

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ddiswyddo golygydd Newsnight, wedi i'r mudiad weld copi o'i ymateb i gwynion am drafodaeth am y Gymraeg ar y rhaglen yn gynharach yn y mis.  

Yn groes i honiad y golygydd yn y llythyr nad oedd Cymdeithas yr Iaith yn 'fodlon neu ar gael' i gymryd rhan yn y rhaglen, roedd Cadeirydd y mudiad wedi cytuno i gyfweliad a dywedodd y byddai hi ar gael i fynd i stiwdio'r BBC ar faes yr Eisteddfod.   

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Mae hwn yn rhan o batrwm gan y BBC o ddilorni a bychanu Cymru a'r Gymraeg. Mae'r llythyr ymateb yn ffeithiol anghywir, yn haerllug ac yn sarhaus. Yn wir, mae'r llythyr yn honni ei bod hi'n ddilys trafod a ddylai'r wladwriaeth geisio adfer y Gymraeg ai peidio - mae hynny'n rhagfarn sylfaenol. Efallai mai dyna safbwynt rhai o'r bobl fwyaf adweithiol mewn gwledydd eraill, ond nid dyna'r drafodaeth brif-ffrwd yng Nghymru. Mae'n gliriach byth nawr mai datganoli darlledu i Gymru yw'r unig ffordd o ddatrys y problemau hyn yn barhaol. Ond, mae'n rhaid dweud bod cynnwys y llythyr mor frawychus, rwy'n credu y dylai Golygydd y rhaglen gael ei ddiswyddo am ei agwedd ragfarnllyd a sarhaus  

"Mae mwy a mwy o bobl Cymru yn gweld na ddylen ni fod yn talu ein ffi drwydded deledu er mwyn ariannu cyflogau pobl a rhaglenni fel hyn a darlledwr Prydeinig syddmor wrth-Gymraeg. Byddwn ni'n annog y bobl sy'n ddig am hyn i ymuno â'r boicot o'r ffi drwydded nes bod darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru."