Galw am Weinidog sy'n aelod llawn o'r cabinet

Mae caredigion y Gymraeg wedi mynegi pryder na fydd y Gweinidog newydd gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Alun Davies AC, yn aelod llawn o gabinet Llywodraeth Cymru. 

Mae'r Gweinidog newydd, yr Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent, wedi cefnogi tri phrif nod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei dogfen weledigaeth, "Miliwn o Siaradwyr: Gweledigaeth o 2016 ymlaen", sef: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn; atal yr allfudiad a chynnal cymunedau ; a defnyddio’r Gymraeg ymhob rhan o fywyd.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gydag Alun, yn enwedig ar addewid y Blaid Lafur i anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Os yw'r Llywodraeth am gyrraedd y targed yna, mae rhaid sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg a symud yn gyflym at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb.  

“Rwy'n siŵr y bydd Alun yn awyddus i greu argraff yn y swydd. Fodd bynnag, mae'n destun pryder na fydd e, fel gwleidydd abl iawn, yn aelod llawn o'r cabinet. Dylai Carwyn Jones unioni'r camgymeriad yna'n syth a'i roi yn y cabinet fel bod y Gymraeg yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Wedi'r cwbl, mae'n bwysig iawn bod y Gymraeg yn cael ei ystyried ar draws y portffolios yn y Llywodraeth.”