Galwad Arbenigwyr am Addysg Gymraeg i Bawb

Ar ddechrau wythnos Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili, mae nifer o arbenigwyr addysg wedi ychwanegu eu cefnogaeth at alwad am i'r cwricwlwm newydd yn ysgolion Cymru roi i bob disgybl y gallu i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg.  

Dywed datganiad gan David CrystalAthro mewn Ieitheg Prifysgol Bangor ac awdur Cambridge Encyclopedia of Language, Gethin Lewis, cyn Brifathro a chyn ysgrifennydd Cenedlaethol N.U.T. Cymru a'r Athro Christine James y dylai'r Llywodraeth: "ddal ar y cyfle i ddatblygu cwricwlwm newydd a fydd yn sicrhau fod pob disgybl yn datblygu’r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg."  

Disgwylir cyhoeddiad gan y llywodraeth y mis nesaf yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Donaldson, ond mae'r Gymdeithas wedi dweud fod y cwricwlwm presennol yn "Welsh Not yr 21ain ganrif" gan nad yw gwersi Cymraeg Ail Iaith yn cynhyrchwyr siaradwyr Cymraeg. 

Esbonia llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis "Dyw hi ddim yn deg fod mwyafrif mawr disgyblion ardal fel Caerffili, bro'r Eisteddfod, yn cael eu hamddifadu o'r gallu i weithio a chyfathrebu'n Gymraeg. Dyma "Welsh Not yr 21ain ganrif". Methiant yw'r syniad dilornus o Cymraeg ail iaith, a dylai'r llywodraeth gyhoeddi newid cyfeiriad fel bod pob disgybl yn dysgu Cymraeg fel ei iaith ei hun a derbyn o leiaf beth o'i addysg yn Gymraeg. 

Ychwanegodd: "Does dim rhaid i'r llywodraeth wrando arnon ni. Dylen nhw wrando ar gasgliad y pwyllgor a gomisiynwyd ganddyn nhw eu hunain a ddaeth i'r un casgliad a ni, ac mae hyd yn oed Carwyn Jones wedi cyhoeddi mai methiant yw Cymraeg Ail Iaith . Wrth gwrs y bydd newid yn y cwricwlwm yn cymryd amser i'w gyflawni. Dylai'r llywodraeth ddatgan y nod a'r cyfeiriad newydd y mis nesaf a sefydlu gweithgor proffesiynol i fonitro'n flynyddol cynnydd tuag at y nod" 

Dywedodd cadeirydd y Gymdeithas, Jamie Bevan a fagwyd ychydig filltiroedd o Fro'r Eisteddfod "Dyn ni ddim chwaith yn dibynnu'n unig ar farn arbenigwyr. Rydyn yn gwahodd pobl i ddod i mewn at uned y Gymdeithas ar y maes a chofnodi eu profiadau eu hunain yn "Llyfr Welsh Not 21ain ganrif" o sut y mae'r cwricwlwm presennol wedi eu methu nhw a'u ffrindiau o ran addysg Gymraeg. Byddwn wedyn yn cyflwyno'r llyfr o dystiolaeth i uned y llywodraeth ar y maes am 1.30pm Ddydd Sadwrn nesaf gyda galwad i derfynu'r Welsh Not unwaith ac am byth"

[Cliciwch yma i weld datganiad llawn yr arbenigwyr] 

Darllenwch ragor yma:

Golwg360

BBC Cymru Fyw

Western Mail

Daily Wales