Gardd Fotaneg: Gofyn i'r Prif Weinidog gymryd camau cyfreithiol

Mae grŵp pwyso iaith wedi gofyn i'r Prif Weinidog gymryd camau cyfreithiol wedi i bennaeth yr Ardd Fotaneg wrthod cynnal cyfarfod yn Gymraeg gyda nhw 
 
Ers i bryderon godi am agwedd yr Ardd at y Gymraeg, tua tri mis yn ôl, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ceisio trefnu cyfarfod gyda'r corff i drafod ei bolisi iaith.  Yôl y mudiad, ar un achlysur, gofynnodd Cyfarwyddwr yr Ardd, Dr Rosie Plummer, i swyddog Cymdeithas yr Iaith Gymraeg beidio ag ysgrifennu at yr Ardd yn Gymraeg.  
 
Ymhlith pryderon y mudiad iaith mae'r ffaith nad oes gan yr Ardd wefan gwbl ddwyieithog, er iddynt dderbyn £300,000 yn ychwanegol gan y Llywodraeth yn 2012 er mwyn creu gwefan Gymraeg. Mae'r Ardd hefyd wedi codi arwyddion, a danfon gohebiaeth, uniaith Saesneg yn ddiweddar.  
 
Mae'r Ardd yn derbyn grant o oddeutu £650,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, sy'n cynnwys amod i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Mae'r corff hefyd yn derbyn £70,000 eleni gan Gyngor Sir CaerfyrddinDywedodd y Cyngor eleni bod y grant yn dibynnu ar gamau gan yr ardd ehangu defnydd o'r Gymraeg.  

Mewn llythyr at y Prif Weinidog Carwyn Jones, sy'n gyfrifol am y Gymraeg o fewn y Llywodraeth, meddai Manon Elin, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Fel sefydliad sy'n derbyn llawer iawn o arian cyhoeddus mae dyletswydd foesol arnynt i gadw at eu cynllun iaith, ac i ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Drwy wrthod cwrdd â ni drwy'r Gymraeg, a thrwy drin ein swyddogion yn y fath fodd, maen nhw'n sicr yn torri eu cynllun iaith, ond rydyn ni hefyd yn meddwl eu bod yn torri'r amod iaith sydd yn eu cytundeb grant gyda chi. Hoffem ofyn i chi ddefnyddio grym yr amod iaith yn y cytundeb er mwyn sicrhau bod yr Ardd yn cydymffurfio gyda gofynion sylfaenol ei chynllun iaith, gan obeithio y bydd hyn yn arwain at greu sefydliad sy'n hwb i'r Gymraeg yn genedlaethol ac yn lleol, yn hytrach nag yn un sy'n codi cywilydd, fel y mae ar hyn o bryd."

Ychwanegodd Manon Elin: "Mae gan bobl yr hawl cyfreithiol i gyfathrebu â chyrff yn Gymraeg, ac mae nifer o'n haelodau yn teimlo'n llawer mwy cyfforddus yn siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd fel hyn. Mae'r Ardd yn derbyn cannoedd o filoedd o arian cyhoeddus mewn ardal lle mae llawer iawn o bobl yn siarad Cymraeg. Rydyn ni wedi trio bod yn amyneddgar wrth geisio trefnu cyfarfod gyda'r sefydliad, ond mae agwedd y Pennaeth wedi gwneud hynny'n amhosibl."

Y stori yn y Wasg:

Cymdeithas call for Legal Action over Garden's 'Atitude towards Welsh' - South Wales Guardian, 03/08/15