Gigs ‘Steddfod Môn - Bryn Fôn, Geraint Jarman, Kizzy a Tudur Owen

 

Bydd Bryn Fôn, Kizzy Crawford, Geraint Jarman a Tudur Owen ymysg y prif berfformwyr yn ystod wythnos o gigs amgen sy’n cael eu trefnu gan garedigion yr iaith ar Fferm Penrhos, Bodedern yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

[Cliciwch yma i brynu tocynnau]

Yn ogystal â’r gigs, fydd yn cynnig llwyfan i brif fandiau’r Ynys a thu hwnt, mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu gwersyll ar y fferm, sydd lai na milltir o Faes yr Eisteddfod. Ymysg yr artistiaid lleol bydd enillwyr Can i Gymru eleni, Cordia a Meinir Gwilym. Bydd Brodyr, band o Fôn o’r 90au, hefyd yn ailffurfio i ganu ar y nos Sadwrn olaf gyda un o sylfaenwyr y sîn roc Gymraeg Geraint Jarman.

Meddai Rhys Llwyd, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith, fu’n Cadeirio’r pwyllgor trefnu:

"’Da ni’n edrych ymlaen yn arw i’r cyhoedd gael gweld ein wythnos eleni. Ein gobaith gyda’n digwyddiadau adeg y ‘steddfod yn flynyddol yw i gydweithio gyda’r gymuned leol a’i chryfhau drwy ein gweithgarwch yn yr ardal. Mae’n bleser cyhoeddi y byddwn ni’n cydweithio gyda’r Ffermwyr Ifanc ym Môn fydd yn rhedeg bar drwy’r wythnos, er mwyn codi arian ar gyfer gwaith y mudiad ym Môn.

“Yn ein croesawu am yr wythnos bydd Iwan Penrhos a'i deulu annwyl, un o gymeriadau Bodedern sy'n gyfarwydd i lawer fel un o gyn-gystadleuwyr Fferm Ffactor ac ymgyrchydd brwd dros ddyfodol y diwidiant llaeth ar ôl ei ymddangosiad diweddar ar y gyfres deledu Milk Man."

“Mae modd i bobl archebu tocynnau a chadw lle gwersylla drwy fynd i’n gwefan -  cymdeithas.cymru/steddfod.”

Ar y nos Sadwrn cyntaf, y 5ed o Awst, bydd Ffermwyr Ifanc Môn yn cyflwyno Bryn Fôn a’r Band. Dyma noson fydd yn rhoi llwyfan i ddau fand ifanc a lleol, Calfari a’r Chwedlau, yn ogystal â Sophie Jayne oedd yn cystadlu ar Gân i Gymru eleni, a Dilys DJ cyn gorffen gyda’r brenin ei hun!

Yna ar y nos Sul, paratowch i chwerthin nes eich bod yn wan, wrth i ni gyflwyno noson stand-yp gyda Tudur Owen, Beth Angell, Eilir Jones, Hywel Pitts a DJ Dyl Mei.

Nos Lun y 7fed o Awst, bydd noson ar y cyd gyda label recordio Ikaching. Yn chwarae bydd yr anhygoel Candelas; bandiau o’r gorllewin, Ysgol Sul a Cpt Smith; a DJ Branwen Sbrings rhwng y bandiau.

Ar y nos Fawrth bydd noson Bragdy’r Beirdd - noson farddol fwya’r flwyddyn, sydd wedi creu tipyn o enw i’w hun yn dilyn llwyddiant nosweithiau megis Sieffre, Sieffre!, Siwper Cêt ac Ambell Fêt, Anntastig, Yn y Coch, a digwyddiadau cysgon yng Nghaerdydd. Bydd hi’n noson o gerddi a chaneuon, chwerthin a chrio yng nghwmni lein-yp dihafal o feirdd cyfoes.

Nos Fercher, bydd noson arbennig o berfformwyr o Fôn - ‘Noson Gwlad y Medra’! Yn cychwyn y noson bydd Cordia, merched a wnaeth ennill Cân i Gymru llynedd gyda’u harmonïau bendigedig. Yna bydd band cyfoes newydd, Panda Fight, sydd â’r prif leisydd o’r Gogledd-Orllewin, cyn i Meinir Gwilym a’r Band goroni’r noson, drwy berfformio o’r albwm newydd ‘Llwybrau’ yn ogystal â rhai o’i chlasuron. Bydd noson fwy ymlaciedig nos Iau gyda chwis ‘Cymru Rydd’ yn yr ysgubor.

I’n cynhyrfu nos Wener, bydd noson o gerddoriaeth hudolus yng nghwmni Steve Eaves, Kizzy Crawford, Lowri Evans, a’r band ifanc o Fôn, Brodyr Magee.

Yna i orffen hwyl a miri’r wythnos, bydd y chwedlonol Geraint Jarman; Bob Delyn a’r Ebillion a Gai Toms, fydd yn lansio ei albwm newydd ‘Gwalia’.