Gweinidog newydd y Gymraeg - Eluned Morgan

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penodiad Eluned Morgan AC fel y Gweinidog newydd gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg.   

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Rydyn ni'n croesawu'r penodiad. Yr hyn sydd angen i Eluned Morgan ei wneud nawr yw sicrhau bod gwaith go iawn yn cael ei gyflawni er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg o fewn y degawdau nesaf, targed sydd wedi ennyn cefnogaeth eang iawn ledled y wlad ac yn drawsbleidiol. Er mwyn cyrraedd y nod, mae angen cynnydd cyflym ar sefydlu'r cymhwyster Cymraeg cyfun newydd i bob disgybl ac ar ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hefyd angen gollwng cynlluniau annoeth y papur gwyn ar gyfer Bil y Gymraeg sy'n cynnig gwanhau rheoleiddio a diddymu Comisiynydd y Gymraeg. Yn wir, byddai'n well gweithredu'r ddeddfwriaeth bresennol yn llawn na bwrw ymlaen gyda chynlluniau niweidiol y papur gwyn."