Gweithio'n fewnol yn Gymraeg - Cam mawr ymlaen yn Ynys Môn

Mae mudiad iaith wedi llongyfarch cynghorwyr Ynys Môn ar bleidleisio o blaid symud yr awdurdod lleol at weinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg yn unig.

Meddai Menna Machreth o ranbarth leol Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'n newyddion gwych bod cynghorwyr wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu symud y cyngor at weinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg yn unig. Rydyn ni'n gobeithio trafod y materion hyn gydag Arweinydd y Cyngor yn fuan, ac yn edrych am gadarnhad o amserlen pendant i symud holl adrannau'r cyngor at yr arfer gorau o ran polisi iaith. Os gweithreda'r cyngor y polisi'n iawn, ac yn brydlon, bydd yn gam mawr ymlaen i'r Gymraeg, nid yn unig yn lleol, ond yn genedlaethol. Mae sefydliadau sy'n gweithio drwy'r Gymraeg yn unig yn llwyddo i ddysgu gweithwyr o bob cefndir i siarad a defnyddio'r Gymraeg yn hyderus ac ym mhob rhan o fywyd."

"Rydym hefyd yn falch fod y Safonau a'r ddyletswydd i gynyddu defnydd mewnol y Gymraeg yn benodol, wedi bod yn sbardun i’r Cyngor wella. Ledled y wlad, mae'r Safonau yn dechrau gwneud gwahaniaeth gyda chynnydd sylweddol yn y nifer o swyddi lle mae angen sgiliau Cymraeg."