“Gweithredwch er lles cymunedau” – neges i Gyngor Sir Gâr

Wrth gloi Fforwm agored yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Sadwrn yr 28ain o Ionawr) mae Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i ddefnyddio adolygiad o'i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) flwyddyn nesaf i sicrhau fod dyfodol i bobl ifanc yng nghymunedau Cymraeg y sir.

Daeth pobl o gymunedau ar draws y sir i'r Fforwm i rannu eu profiad nhw o effaith y farchnad dai, polisïau cynllunio, a sut mae colli neu ddiffyg gwasanaethau yn tanseilio cymunedau gyda chynghorwyr blaenllaw a swyddogion perthnasol.

Fe wnaeth Sioned Elin orffen drwy ddiolch i gynghorwyr a swyddogion am fod yn bresennol, ac apelio arnynt i gymeryd i ystyriaeth yr holl sylwadau wrth ail-drafod y CDLl flwyddyn nesaf. Fe esboniodd hi:

“Mae angen i'r cyngor edrych ar bethau yn eu cyfanrwydd er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc greu dyfodol i'w hunain yn ein cymunedau Cymraeg. Yn hytrach na thrin popeth ar wahân mae angen gweld sut mae pethau'n cyd-blethu. Yn fy mhentref i mae'r Cyngor wedi bygwth cau'r ysgol leol tra bod adran arall o'r cyngor yn rhoi caniatâd i dai gael eu hadeiladu. Ac mae angen i'r Cyngor weithio gyda phobl leol er mwyn cynllunio dyfodol ein cymunedau. Gwerth cyfyng sydd i addysg Gymraeg a statws swyddogol i'r Gymraeg os yw prif bolisïau yn tanseilio'n cymunedau Cymraeg."

Mwy o luniau'r cyfarfod - cymdeithas.cymru/lluniau/tynged-yr-iaith-sir-g-r-cyhttp://cymdeithas.cymru/lluniau/tynged-yr-iaith-sir-g-r-cynllunio-dyfodol-ein-cymunedaunllunio-dyfodol-ein-cymunedau

Y Stori yn y wasg
Langauge Group accuses Carmarthenshire Council of Lack of Joined Up Thinking - Carmarthen Journal 1/2/17