Gwrth-dystio yn Llundain dros ddatganoli darlledu

Mae cymeriadau plant wedi gwrth-dystio tu allan i Swyddfa Cymru yn Llundain gan fynnu bod Llywodraeth Prydain yn datganoli pwerau dros ddarlledu i'r Cynulliad yng Nghymru. 
 
Mae S4C wedi dioddef toriadau o 40% i'w gyllideb ers 2010. Dywedodd maniffesto etholiad cyffredinol y Ceidwadwyr yn 2015 y byddent yn "diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C". Fodd bynnag, mewn dadl yn San Steffan fis diwethaf, dywedodd y Gweinidog yn Llywodraeth Prydain gyda chyfrifoldeb dros S4C y gallai fod toriad pellach o dros £700,000 o bunnau i grant y sianel o fis Ebrill eleni ymlaen.    
 
Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gynnal adolygiad o'r sianel eleni ac mae Gweinidog Swyddfa Cymru Guto Bebb wedi dweud wrth Gymdeithas yr Iaith bydd trafod datganoli yn 'anochel' yn rhan o'r trafodaethau.  
 
Wrth gefnogi protest y cymeriadau plant yn Llundain, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 
 
"Mae rhywbeth mawr o'i le â chyfryngau Cymru. Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr bod Gweinidogion yn yr Adran hon, sy'n gwybod dim am y Gymraeg na Chymru, yn cael penderfynu ar ddarlledu yn ein gwlad. Dylai penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru - mae'n bryd datganoli darlledu. Ni sydd yn gwybod beth sydd orau i'r Gymraeg a'n cymunedau – nid Gweinidogion a gweision sifil sydd heb ddiddordeb yn y mater.
 
"Mae'n glir o'n sgyrsiau gydag Aelodau Seneddol dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys Swyddfa Cymru, bod y mwyafrif yn gwrthwynebu unrhyw ymdrech i dorri S4C yn bellach. Ond eto, mae gyda ni Weinidogion yn yr Adran Ddiwylliant yn Llundain yn awgrymu bod y Ceidwadwyr yn cynllunio i dorri addewid i ddiogelu cyllid y sianel. Dylen ni fod yn trafod sut i ehangu darlledu yn Gymraeg yn hytrach na gorfod pledio yn flynyddol am frwsion o'r bwrdd. Er bod cannoedd o sianeli teledu a gorsafoedd radio Saesneg, dim ond un sianel deledu a gorsaf radio Gymraeg sydd."