Gwrthod tai Penrhosgarnedd "yn gynsail"

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i'r newyddion fod yr arolygaeth gynllunio wedi gwrthod datblygiad 366 o dai ym Mhenrhosgarnedd ar sail eu heffaith ar y Gymraeg.

Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:

"Ry'n ni'n croesawu'r penderfyniad yr arolygydd i wrthod y datgblygiad niweidiol hwn. Gwnaeth Cyngor Gwynedd y peth iawn wrth ystyried effaith y datblygiad ar yr iaith a gwrthod cymeradwyo'r datblygiad ym Mhen y Ffridd. Dylai'r newyddion yma fod yn gynsail ar gyfer ymdrin â cheisiadau cynllunio unigol, ac fe ddylai atgoffa cynghorwyr nid yn unig yng Ngwynedd ond ymhob rhan o Gymru fod y Gymraeg bellach yn ystyriaeth bwysig yn y system gynllunio.

Ychwanegodd -

"Ry'n ni'n falch bod Leslie Griffiths wedi derbyn y penderfyniad yma, ac mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati i wneud yn siwr fod y Polisi Cynllunio cenedlaethol newydd yn gwneud gwarchod a chryfhau'r Gymraeg yn gymunedol yn egwyddor ganolog a hanfodol".