Hanner cant yn gwrthod talu am drwyddedau teledu er mwyn datganoli darlledu

Mae hanner cant o bobl bellach yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu, fel rhan o ymgyrch i ddatganoli grym dros ddarlledu i Gymru, yn ôl cyhoeddiad gan grŵp ymgyrchu heddiw (dydd Iau, 16eg Mai).  

Ddechrau'r flwyddyn, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith y byddai'n gofyn i'w cefnogwyr wrthod â thalu ffi'r drwydded deledu er mwyn trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros ddarlledu o San Steffan i'r Cynulliad. Mae'r mudiad yn honni bod toriadau i ddarlledu Cymraeg a Chymreig, yn ogystal â'r diffyg cynnwys lleol a Chymraeg ar deledu a radio lleol, yn bygwth y Gymraeg a democratiaeth.  

[Gallwch chi ymuno â'r boicot o'r ffi drwydded drwy glicio yma]

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy'n un o'r rhai sy'n gwrthod talu ei ffi drwydded  

“Mae'n galonogol bod fwyfwy o bobl gyffredin o bob cwr o'r wlad yn dechrau gwneud safiad yn erbyn system sy'n amddifadu pobl o'r cyfryngau sy'n adlewyrchu eu bywydau a'u dyheadau nhw. Rydyn ni wedi cael hen ddigon o gyfryngau sy'n anwybyddu'r Gymraeg a democratiaeth Cymru. 

"O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael ei wneud gan bobl Cymru.  Mae’n bryd datganoli darlledu.”   

Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr: mae'r darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig. Nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru.  

Wrth gyfeirio at y sianel deledu newydd i'r Alban, dywedodd:  

"Mae yna sianel newydd i'r Alban, a dim ond briwsion i ni yng Nghymru. Mae'r BBC yn ceisio traflyncu S4C ac wedi cynorthwyo'r Llywodraeth Geidwadol i dorri ein hunig sianel deledu Gymraeg. Chawn ni ddim tegwch i'r Gymraeg na Chymru os yw darlledu yn parhau i gael ei reoli gan Lundain."