Hen Gar wedi’i adael wrth uned Llywodraeth Cymru

Wrth gynnal protest wrth uned Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, 7fed Awst fe wnaeth aelodau Cymdeithas yr Iaith adael hen gar gyda’r geiriau “Cymraeg Ail Iaith” arno o flaen y stondin. Esboniad y Gymdeithas yw fod dysgu Cymraeg Ail Iaith yn “write-off” ac yn fethiant addysgol.

Dywed y Gymdeithas na ellid trwsio na gwella model methedig Cymraeg Ail Iaith a bod angen i’r llywodraeth yn hytrach gyflwyno yn y cwricwlwm newydd Cymraeg i bawb ar hyd continwwm iaith  gan sicrhau bod pob disgybl yn codi trwy wahanol lefelau o hyfedredd.

Yn ogystal mae’r Gymdeithas yn galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno rhywfaint addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yng Nghymru fel y daw pob disgybl i fedru cyfathrebu’n Gymraeg a defnyddio’r iaith.  Mae'r mudiad wedi bod yn arwain ymgyrch dros “Addysg Gymraeg i Bawb” fel rhan o ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad a ddangosodd cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg.    

Cefnogir safbwynt y Gymdeithas gan nifer o arbenigwyr addysgol sydd wedi rhybuddio na ddylid oedi rhag gweithredu argymhellion adroddiad gan yr Athro Sioned Davies a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ol. Ym mis Mai eleni cyfaddefodd y Prif Weinidog nad yw'r gyfundrefn bresennol yn gweithio, dywedodd e: “... dyn ni ddim, ar ôl 20 mlynedd o gael y Gymraeg yn orfodol mewn ysgolion, wedi creu siaradwyr hyderus Cymraeg ... mae rhaid i fi sicrhau [ein bod yn] ystyried ym mha ffordd allwn ni newid y drefn fel bod pobl yn gweld y Gymraeg fel sgil...”.   

Yn siarad wedi'r brotest, meddai Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith:    
“Go brin fod unrhyw sefyllfa erioed wedi bod yn gliriach. Mae holl syniad Cymraeg Ail Iaith yn fethiant - yn fethiant addysgol ac yn bradychu’r disgyblion. Petai Cymraeg ail iaith yn gerbyd, byddai'n “write-off”! Wedi'r cwbl, nid ‘ail’ iaith yw’r Gymraeg gan ei bod yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac arwydd o fethiant addysgol yw i unrhyw ddisgybl ymadael a’r ysgol heb fedru byw a gweithio’n Gymraeg mewn gwlad fodern ddwyieithog."   
“Rhaid i ni symud at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn o leiaf ran o’i addysg yn Gymraeg fel y dysgant sut i ddefnyddio’r iaith. Does dim modd cyflawni’r fath newid dros nos, ond mae nifer o fudiadau ac arbenigwyr yn galw ar Carwyn Jones i symud ymlaen ar fyrder â'r agenda yma wedi dwy flynedd o oedi. Gall wneud datganiad o fwriad yfory a sefydlu panel o arbenigwyr i weithredu’r newid.   
"Nid oes modd gwadu nad yw’r status quo yn aneffeithiol ac annerbyniol. Caiff tros 75% o’n plant eu hamddifadu o'r sgil addysgol hanofol o fedru cyathrebu a gweithio’n Gymraeg er yr honiad fod y drefn i fod i ddysgu pob disgybl i siarad yr iaith yn Felly, mae gennym gyfundrefn sydd yn anelu at nod clodwiw iawn, ond nid yw hi’n gweithio. Dyna pam mae consensws ymysg addysgwyr ac yn drawsbleidiol dros newidiadau sylweddol i’r system."

Y stori yn y wasg -

Dinistrio car ar faes yr Eisteddfod - Golwg360 7/08/15

Welsh language activists dump car - Daily Post 7/08/15

Lluniau yma