Her gyfreithiol er mwyn dileu Cymraeg Ail Iaith

Mae mudiad iaith wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu herio'n gyfreithiol penderfyniad i gadw'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith gan honni ei fod yn groes i bolisi'r Prif Weinidog i'w ddileu.  

Dair blynedd yn ôl, derbyniodd y Llywodraeth adroddiad gan yr Athro Sioned Davies oedd yn galw am newidiadau 'brys', gan gynnwys cael gwared â'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel 'ail iaith' ac yn lle hynny i symud at un continwwm o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynyddol ym mhob ysgol. Ym mis Rhagfyr y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei fod "o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol."

[Cliciwch yma i gyfrannu'n ariannol at yr ymgyrch]

Yn ystod ymgynghoriad gan Gymwysterau Cymru am y mater, galwodd mwyafrif yr ymatebwyr am ddileu TGAU Cymraeg Iaith. Er gwaethaf yr ymateb a pholisi'r Llywodraeth, cyhoeddodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, bod y corff am gadw'r cymhwyster

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi comisiynu cyfreithwyr i wneud paratoadau i herio penderfyniad Cymwysterau Cymru. Mae'r mudiad heddiw wedi lansio apêl ariannol er mwyn cyfrannu at y costau cyfreithiol. Wrth esbonio'r penderfyniad i ystyried her gyfreithiol, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

 

"Dydyn ni ddim wedi gwneud y penderfyniad yma'n ysgafn, ond mae'r sefyllfa'n un ddifrifol.  Mae tua wythdeg y cant o'n pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg bob blwyddyn. Mae pawb yn derbyn bod angen newidiadau radical, gan fod y system bresennol yn fethiant. Fodd bynnag, mae swyddogion wedi methu â gweithredu prif argymhellion adroddiad Yr Athro Sioned Davies ers tair blynedd.  

"Mae Cymwysterau Cymru wedi anwybyddu polisi'r Prif Weinidog a mwyafrif helaeth yr ymatebion i'w ymgynghoriad ei hunan. Mae angen trawsnewid y system nid twtio ar yr ymylon. Dywedodd adroddiad Sioned Davies a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2013 bod angen diddymu Cymraeg Ail Iaith a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg ac un cymhwyster newydd i bob plentyn yn ei le. Yn y tair blynedd ers cyhoeddiad adroddiad 'brys' Yr Athro Davies, does braidd dim byd wedi newid. Mae'n hanfodol bod dysgu'r Gymraeg fel ail iaith yn dod i ben yn 2018 gan sefydlu un cymhwyster cyfun i bob disgybl yn ei le."  

Bydd rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy'n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 8fed Hydref yn Llangefni, Ynys Môn, yn canolbwyntio ar alw am addysg Gymraeg i bawb. Ymysg y siaradwyr bydd y Prifardd Cen Williams a disgyblion lleol.    

Sylw yn y wasg:

Western Mail

Golwg 360