Hysbyseb Swydd: Swyddog Maes Morgannwg-Gwent

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus fydd yn gyfrifol am ysbrydoli a hwyluso gweithgaredd gwirfoddol, annibynnol gan gelloedd a rhanbarthau, gan sicrhau bod y frwydr dros gryfhau'r Gymraeg yn digwydd yn y de.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda’r nod o dynnu aelodau i mewn i’n hymgyrchoedd ac yn cynorthwyo swyddogion eraill i gyflawni’r nod hwn. Bydd yn gyfrifol am hybu ymgyrchoedd lleol y Gymdeithas, lledaenu ein neges a chynyddu aelodaeth ar hyd y rhanbarth, gan annog aelodau i sefydlu a chynorthwyo celloedd lleol a grwpiau ymgyrch, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion.

Byddwch yn gweithio am gyfnod o ddwy flynedd o dan arweiniad Cadeirydd y Rhanbarth a'r Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt y Cynulliad Cenedlaethol, gyda golwg ar ymestyn y cytundeb maes o law yn ddibynnol ar y sefyllfa ariannol. Bydd cyfnod prawf o chwe mis.

Y cyflog llawn amser fydd £20,500 y flwyddyn gyda chyfraniad ychwanegol gwerth 5% o’r cyflog ar gyfer cynllun pensiwn. Byddwn yn rhoi ystyriaeth gyfartal i geisiadau i weithio'n rhan amser neu'n llawn amser.

Lleolir y swydd yn swyddfa’r Gymdeithas yng Nghaerdydd.

Os am fanylion pellach cysylltwch â: Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ / post@cymdeithas.cymru / 01970 624501

Anfonwch CV a llythyr cais at: post@cymdeithas.cymru

Dyddiad cau: 6pm, Dydd Llun, 19fed Medi 2016

[Cliciwch yma am y swydd ddisgrifiad llawn]