Hysbyseb Swydd: Swyddog Maes y Gogledd

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus fydd yn gyfrifol am ysbrydoli a hwyluso gweithgaredd gwirfoddol, annibynnol gan gelloedd a rhanbarthau, gan sicrhau bod y frwydr dros gryfhau'r Gymraeg yn digwydd yn y Gogledd.

Y cyflog llawn amser fydd £20,500 y flwyddyn gyda chyfraniad ychwanegol gwerth 5% o’r cyflog ar gyfer cynllun pensiwn. Byddwn yn rhoi ystyriaeth gyfartal i geisiadau i weithio'n rhan amser neu'n llawn amser. Bydd y cytundeb gwaith cychwynnol yn para am gyfnod o ddwy flynedd.

Os am fanylion pellach cysylltwch â: Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

post@cymdeithas.cymru / 01970 624501

Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 8fed Mai 2015

cymdeithas.cymru

@cymdeithas

SWYDDOG MAES Y GOGLEDD, CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus fydd yn gyfrifol am ysbrydoli a hwyluso gweithgaredd gwirfoddol, annibynnol gan gelloedd a rhanbarthau, gan sicrhau bod y frwydr dros gryfhau'r Gymraeg yn digwydd yn y Gogledd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda’r nod o dynnu aelodau i mewn i’n hymgyrchoedd ac yn cynorthwyo swyddogion eraill i gyflawni’r nod hwn. Bydd yn gyfrifol am hybu ymgyrchoedd lleol y Gymdeithas, lledaenu ein neges a chynyddu aelodaeth ar hyd y rhanbarthau, gan annog aelodau i sefydlu a chynorthwyo celloedd lleol a grwpiau ymgyrch, gan gynnwys ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Byddwch yn gweithio am gyfnod o 2 flynedd o dan arweiniad Cadeiryddion Rhanbarthau Gwynedd-Môn a Glyndŵr a'r Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt y Cynulliad Cenedlaethol, gyda golwg ar ymestyn y cytundeb maes o law yn ddibynnol ar adolygiad o'r strwythur swyddi. Bydd cyfnod prawf o chwe mis.

Byddwn yn rhoi ystyriaeth gyfartal i geisiadau i weithio'n rhan amser neu'n llawn amser. Y cyflog llawn amser fydd £20,500 y flwyddyn gyda chyfraniad ychwanegol gwerth 5% o’r cyflog ar gyfer cynllun pensiwn ynghyd â chyfraniad misol tuag at gostau ffôn symudol.

Lleolir y swydd yn swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaernarfon a Wrecsam. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus rannu'r oriau gwaith yn deg rhwng Rhanbarth Gwynedd-Môn a Rhanbarth Glyndŵr yn ôl anghenion ac achosion penodol o un wythnos i'r llall ac i dreulio o leiaf un diwrnod ymhob pythefnos yn gweithio o'r swyddfa yn Wrecsam.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau ar gyfer y swydd yw dydd Gwener yr 8fed o Fai 2015.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

post@cymdeithas.cymru / 01970 624501

OS YW'R GYMRAEG I FYW RHAID I BOPETH NEWID!

[Cliciwch yma am gopi o'r swydd-ddisgrifiad manwl]