Lefelau-A: llai yn astudio'r Gymraeg, angen trawsnewid y gyfundrefn

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod y cwymp yn nifer y disgyblion sy'n astudio'r Gymraeg fel ail iaith a gyhoeddwyd heddiw yn brawf pellach bod angen addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. 

Wrth ymateb i'r cwymp yn nifer y disgyblion sy'n astudio'r Gymraeg fel ail iaith yn eu lefel-A, dywedodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ffred Ffransis: "Dylai'r Gymraeg fod yn iaith i bawb, nid i'r rhai ffodus yn unig. Mae'r ffigyrau heddiw yn pwysleisio'r angen i sicrhau bod pob ysgol yn darparu rhywfaint o addysg cyfrwng Cymraeg i'w disgyblion fel bod addysg Gymraeg i bawb. Mae angen un continwwm dysgu sy'n sicrhau bod ein holl blant yn dysgu fwyfwy drwy'r Gymraeg, pa ysgol bynnag maen nhw'n ei mynychu."