'Mark Spencer' yn dod i Gaerfyrddin


Tra bu 20 o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn picedu siop M&S Caerfyrddin heddiw oherwydd ei diffyg defnydd o'r Gymraeg wrth ailfrandio'r siop, gwnaeth un o'r aelodau ymwisgo mewn siwt a het M&S a chyflwyno ei hun fel "Mark Spencer".
 
Treuliodd 5 munud yn dweud wrth siopwyr na allai M&S ymdrafferthu gyda materion bach "pitw" fel yr iaith Gymraeg ac y dylai pobl leol fod yn falch fod y siop yn y dre gan eu bod yn gwerthu'r "pants gorau yn y byd". 
 
Mae'r Gymdeithas wedi ailfrandio'r siop fel ("Methiant & Siom"). Meddai Hazel Charles Evans, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd:
 
Yn ogystal â chael hwyl am ben cymeriad Mark Spencer heddiw, rydyn ni'n lansio ymgyrch i Gymreigio Marks and Spencer. Byddwn ni'n cyhoeddi cyfres o brotestiadau a digwyddiadau i bwyso ar y siop dros y misoedd i ddod. Bydd y nesaf ar ddydd Sadwrn 29ain Mehefin am 11 o’r gloch pryd y byddwn ni'n cyflwyno pants i'r siop i ddangos iddyn nhw fod eu polisi iaith yn “pants”. Rydyn ni'n gofyn i bobl ddod â phants gyda nhw i'r brotest neu i'w gadael gyda ni ar stondin y Gymdeithas yn Eisteddfod yr Urdd.
 
“Rydyn ni wedi cael problemau gyda Marks and Spencer ers blynyddoedd. Yn ddiweddar fe wnaeth rhai o staff y siop gwrdd gyda ni cyn iddyn nhw ail-frandio'r siop yng Nghaerfyrddin. Er nad oedden nhw'n bwriadu gwneud popeth roedden ni'n gofyn amdano roedden ni'n eithaf gobeithiol. Ond aeth arwyddion newydd lan yn y siop yn ddiweddar – rhai uniaith Saesneg. Mae hynny'n gam nôl o ran y cwmni. Methiant ydyn nhw, ac mae'n Siom i ni. Rydyn yn eu hail-frandio yn siop "Methiant a Siom"

“Mae'r cymeriad Mark Spencer yn dod i Gaerfyrddin heddiw i ddangos yn union beth yw agwedd y siop tuag at Gaerfyrddin a'r Gymraeg – does dim diddordeb na pharch gyda nhw tuag aton ni, eu prif ddiddordeb yw gwneud elw.”
 
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Marks and Spencer i sicrhau:
1.Arwyddion parhaol a dros dro yn ddwyieithog

2. Staff sy'n siarad Cymraeg a bod recriwtio staff Cymraeg

3. Defnydd o’r uchelseinydd yn ddwyieithog

4. Cynnyrch o Gymru’n cael ei labelu fel cynnyrch o Gymru yn hytrach na Phrydain

Y stori yn y wasg:

Carmarthen Journal 15/05/13 - Trouble in store over signs