Meddiannu swyddfa achos penderfyniad i barhau â "Chymraeg Ail Iaith"

Mae ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu swyddfeydd Cymwysterau Cymru oherwydd penderfyniad y corff i barhau i ddysgu 'Cymraeg Ail iaith' i blant yn lle creu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl; ac yn galw ar i Kirsty Williams wrthdroi'r penderfyniad.

Dair blynedd yn ôl, derbyniodd y Llywodraeth adroddiad gan yr Athro Sioned Davies oedd yn galw am newidiadau radical brys, gan gynnwys cael gwared â'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel 'ail iaith' ac yn lle hynny symud at un continwwm o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynyddol ym mhob ysgol. Y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod "o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol."

Fodd bynnag, mewn llythyr a gyhoeddwyd ar wefan cymwysterau Cymru wythnos diwethaf, dywed Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, wrth yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams bod y corff am gadw'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith.

Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r penderfyniad yma yn mynd i amddifadu cenhedlaeth arall o blant o'r Gymraeg. Mae'n anghredadwy eu bod nhw'n gallu anwybyddu teimladau cryf cannoedd o bobl wnaeth ymateb I'r ymgynghoriad. Mae'n hollol annerbyniol ac yn dangos diffyg ewyllys a diffyg gweledigaeth gweision sifil a swyddogion i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen. Unwaith eto, maen nhw'n gadael plant i lawr drwy gadw system sydd eisoes wedi ei brofi yn fethiant.

"Nid oes modd dileu Cymraeg Ail Iaith ar yr un llaw a diwygio'r cymhwyster 'Cymraeg Ail Iaith' ar y llaw arall. Naill ai eich bod yn ei ddileu, neu dydych chi ddim – mae mor syml â hynny. Maen nhw'n gwybod hynny'n iawn, ond yn lle gweithredu, maen nhw'n arafu yn ddiangen unwaith eto.

"Pryderwn yn fawr y gwelwn, yn y pendraw, barhau â chysyniad Cymraeg ail iaith. Mae hynny'n ddedfryd oes i 80% o'n pobl ifanc a fydd heb y Gymraeg am eu holl fywyd. Byddwn ni'n mynnu ymatebion gan Kirsty Williams yn ein cyfarfod gyda hi wythnos nesaf a'i bod hi'n dangos arweiniad nawr drwy wrthdroi'r penderfyniad er lles y genhedlaeth nesaf."

Mwy o luniau: http://cymdeithas.cymru/lluniau/meddianu-swyddfa-cymwysterau-cymru

Y stori yn y wasg:

Golwg 360

Wales Online