Mesur Cynllunio: Llywodraeth yn ildio ar ystyriaeth i'r Gymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cytuno i roi statws i'r Gymraeg yn y Mesur Cynllunio heddiw (Dydd Gwener, 24ain Ebrill), ond wedi rhybuddio nad yw'r gyfundrefn yn gallu gweithio heb asesiadau effaith iaith ar geisiadau unigol.  

Heddiw, cefnogodd y Gweinidog Cynllunio welliant a fydd yn gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol o fewn y system gynllunio, gan roi grym statudol i gynghorwyr wrthod neu ganiatáu datblygiadau ar sail eu heffaith iaith. 

Er hynny fe fydd y grŵp pwyso yn parhau ag ympryd a gynlluniwyd er mwyn dwyn sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa a'r angen i sefydlu cyfundrefn ar gyfer asesiadau effaith iaith ar geisiadau unigol ac i newid y ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod.        

Yn siarad o Fachynlleth, meddai Tamsin Davies ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r newyddion hyn yn rhywbeth i groesawu, ond rydym dal mewn sefyllfa peryglus iawn, mae'n hanfodol bod y Bil yn sefydlu cyfundrefn o asesiadau effaith iaith ar gyfer ceisiadau unigol os yw'r newid yn mynd i fod yn ystyrlon. Heb fecanwaith i gynnal asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau unigol, sut mae modd dangos y bydd y cais yn cael effaith ar y Gymraeg? Fyddai cyfundrefn o'r fath ddim yn ddigon daYn wir, mae'n rhyfeddod nad yw'r Llywodraeth wedi cefnogi argymhelliad trawsbleidiol ar y mater hwn. Yr unig esboniad yw ei bod yn well gyda nhw gadw datblygwyr mawrion yn hapus, yn hytrach na gwasanaethu budd eicymunedau. Mae'n siomedig hefyd bod Carl Sargeant wedi ymddangos i fynd yn ôl ar ei air i newid y ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod." 

"Fel y saif, mae'r Bil yn siartr i ddatblygwyr mawrion - drwy ganoli grym a thrwy wanhau lleisiau democrataidd. Deddfwriaeth fyddai - yn groes i addewid Ed Miliband - o fudd sylweddol i gwmnïau mawrion. Mae gor-ddatblygu a datblygiadau anaddas yn effeithio ar nifer o ardaloedd ledled Cymru - o ddatblygiadau tai diangen i'r M4 newydd. Mae'n rhaid i'r Bil adlewyrchu anghenion unigryw Cymru er mwyn gwella'r amgylchedd, er mwyn cryfhau'r Gymraeg, ac er mwyn taclo lefelau tlodi." 

Bydd pleidlais ar y gwelliannau i'r Mesur Cynllunio ar 5ed o Fai.