Miliwn o siaradwyr Cymraeg - her i'r pleidiau gwleidyddol

"Miliwn o siaradwyr Cymraeg", dyna'r amcan y dylai holl bleidiau'r Cynulliad gynnwys yn eu maniffestos ar gyfer etholiad 2016, yn ôl caredigion yr iaith wrth iddyn nhw gychwyn rhoi cynigion at ei gilydd ar gyfer rhaglen Llywodraeth nesaf Cymru heddiw (Dydd Iau, 26ain Mawrth).    
 
Daw'r neges wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddechrau hel syniadau ar-lein ar gyfer papur yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn nhymor nesaf y Cynulliad, sef o 2016 ymlaen.    

CLICIWCH YMA I RANNU EICH SYNIADAU
 
Dros y misoedd nesaf, bydd y mudiad yn mynd ati i drafod argymhellion gyda mudiadau ac arbenigwyr ynghylch sut orau y gellid symud tuag at gyrraedd y targedau canlynol yn ystod tymor nesaf y Cynulliad:   

  • cynyddu'r nifer o siaradwyr, gan anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg dros amser   
  • atal yr allfudiad a chynnal cymunedau ynghyd â sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i'r wlad    
  • defnyddio'r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai'r Gymraeg yw'r iaith naturiol o'r crud i'r bedd  

Wrth esbonio'r targed, meddai Mared Ifan, cyn-Lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, sydd bellach yn Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:    
 
"Penderfynodd aelodau'r Gymdeithas ym mis Hydref y llynedd i fynd ati i greu dogfen er mwyn gosod allan gweledigaeth i'r Gymraeg ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2016.  Rydyn ni'n credu y dylen ni fod yn uchelgeisiol ein meddylfryd, ac felly dylen ni fod yn anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg. Wrth gwrs, dyw'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg ddim yr unig fater sy'n cyfrif, ond mae man cychwyn da er mwyn sicrhau bod pawb yn cael byw yn Gymraeg. Rydyn ni nawr yn mynd ati i gwrdd â nifer o bobl ar lawr gwlad, mudiadau iaith, arbenigwyr ac eraill i drafod sut i gyrraedd yr uchelgais hynny. Credwn fod targed o'r fath yn mynd i roi ffocws clir i'r ddogfen polisi y byddwn ni'n cyhoeddi erbyn yr Haf."     
 
Bydd y Llywodraeth nesaf yn creu Strategaeth Iaith newydd, ac mae Mared Ifan yn dadlau bod hynny'n cynnig cyfle ar gyfer gweledigaeth newydd: "Mae'n hymgyrchoedd ers canlyniadau'r Cyfrifiad wedi dwyn ffrwyth i ryw raddau. Rydyn ni wedi gweld treth cyngor uwch ar ail gartrefi, newidiadau i'r system gynllunio a dileu'r cwrs byr TGAU ail iaith. Ond tameidiog mae'r datblygiadau hyn wedi bod, mae gwir angen Llywodraeth gyda syniadau ffres.     
 
"Heb amheuaeth bydd sôn am addysg fel un o'r arfau grymus sydd gennym i sicrhau ffyniant yr iaith. Ar hyn o bryd mae 79% o'n plant yn gadael addysg heb y gallu i  gyfathrebu a gweithio drwy'r Gymraeg, mae hynny'n sgandal. Mae'r Athro Sioned Davies wedi amlinellu ffordd ymlaen, ac rydyn ni aros i'r pleidiau gwleidyddol ymateb i'r cynigion mae hi wedi amlinellu."     
 
Bydd modd i bobl gyfrannu eu syniadau i weledigaeth Cymdeithas yr Iaith ar-lein drwy fynd i cymdeithas.cymru/2016ymlaen - bydd y mudiad yn derbyn sylwadau a syniadau tan Fai 7fed.