Mwyafrif am ddeddfu i sicrhau gwasanaethau bancio'n Gymraeg - YouGov

Mae mwyafrif o bobl Cymru eisiau estyn deddfwriaeth iaith i sicrhau gwasanaethau Cymraeg gan fanciau ac archfarchnadoedd, yn ôl canlyniadau arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Gwener, 14eg Gorffennaf). 

Dywedodd 57% o bobl a holwyd gan y cwmni eu bod yn cefnogi cyfraith i sicrhau bod pob banc yng Nghymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, o gymharu â 29% oedd yn erbyn. Roedd mwyafrif yn ffafrio ddeddfu bod pob archfarchnad yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg gyda 51% yn cefnogi a 36% yn erbyn y cynnig. Roedd cefnogaeth i'r cynigon gan fwyafrif y rhai a bleidleisiodd dros Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn 2015. 

Ar hyn o bryd, mae Mesur y Gymraeg 2011 yn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod dyletswyddau ar rai cwmnïau yn y sector breifat megis cwmnïau telathrebu, dwr, ynni a thrafnidiaeth, ond ddim busnesau mewn sectorau eraill. Mae rhai o'r dyletswyddau newydd – y Safonau - eisoes yn cael eu gweithredu gan y sector gyhoeddus. Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mewn cyfarfod ym mis Mawrth, dywedodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Alun Davies AC, ei fod o blaid deddfu er mwyn sicrhau bod archfarchnadoedd a banciau yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg. 

Wrth ymateb i ganlyniadau'r arolwg barn, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Os yw'r Gymraeg am dyfu, rhaid i ni gael yr hawl i'w defnyddio ymhob agwedd ar fywyd, ac mae'r arolwg clir yn dangos bod mwyafrif clir o bobl Cymru yn cytuno. Erbyn hyn, rhaid i bawb ddefnyddio banciau ac archfarchnadoedd, ond bylchog ar y gorau yw eu darpariaeth Cymraeg. Mae cyfraith 2011 yn ei wneud yn glir fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru - ond rhaid adeiladu ar hynny trwy sicrhau hawliau penodol a chlir. Ry'n ni'n croesawu bwriad Alun Davies, gweinidog y Gymraeg, i ymestyn y ddeddf i'r sectorau hyn, ac yn edrych ymlaen at weld manylder ei gynlluniau i ddiwygio mesur y Gymraeg - rhaid cryfhau'r mesur. 

"Mae profiad yn dangos mai dim ond gorfodaeth cyfreithiol neu ariannol fydd yn sicrhau bod cwmnïau rhyngwladol anferth yn rhoi chwarae teg i'r Gymraeg, ac mae pobl yn cytuno gyda ni y dylai pob archfarchnad yng Nghymru rhoi lle i'r Gymraeg. 

"Yn anffodus, mae banciau anferth fel HSBC a NatWest yn cefnu ar gymunedau Cymraeg trwy gau canghennau, ac nid oes unrhyw ddarpariaeth Gymraeg o gwbl yn y gwasanaethau sy'n cymryd eu lle megis bancio ar y we ac ar ffôn symudol. Does dim syndod felly bod pobl ymhob rhan o Gymru yn cefnogi creu cyfraith i sicrhau fod pob banc yn gorfod darparu gwasanaeth Cymraeg."

[Cliciwch yma i agor y canlyniadau llawn]