Mynnu Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat – Lansiad

Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhoeddi cynlluniau i ymestyn hawliau i wasanaethau Cymraeg i'r sector breifat gyfan, yn dilyn addewid gan Lywodraeth newydd Cymru y caiff deddfwriaeth iaith ei chryfhau.

Yn y Senedd ym mae Caerdydd, amlinellodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eu syniadau i gryfhau deddfwriaeth iaith gan ofyn am ymateb y cyhoedd i'r cynigion. Ar hyn o bryd, mae Mesur y Gymraeg (Cymru), a ddaeth i rym yn 2011, yn caniatáu gosod dyletswyddau ar rai cwmnïau preifat yn unig, sef busnesau bysiau a threnau, ynni, dŵr a thelathrebu. Er bod grym gan y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg i greu hawliau i'r Gymraeg yn y sectorau hynny ers pum mlynedd, nid oes dyddiad wedi'i osod pan fydd gwasanaethau cwmnïau telathrebu yn Gymraeg.

[Cliciwch yma i ddarllen y ddogfen lawn]

Ymysg cynigion eraill yn nogfen ymgynghorol y mudiad iaith, maent yn argymell:

  • Sefydlu hawliau cyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg 
  • Ymestyn y Mesur i weddill y sector breifat, megis banciau, archfarchnadoedd a mân-werthwyr
  • Mesurau i sicrhau mwy o swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol a chynllunio'r gweithlu'n well 
  • Mesurau i amddiffyn a hybu gweithredu mewnol uniaith Gymraeg 
  • Dyletswydd i enwi adeiladau, tai, lleoedd a strydoedd yn Gymraeg mewn datblygiadau, ynghyd â diogelu enwau Cymraeg sy'n bodoli eisoes
  • Sefydlu corff newydd, Cyngor y Gymraeg, a chanddo gyllideb a chyfrifoldeb i hyrwyddo a hybu’r Gymraeg

Dywed y ddogfen a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn y Cynulliad: 

"Rydym wedi gweld sawl adroddiad yn cyfeirio at ddiffygion nifer o sectorau preifat sy'n dangos nad oes modd sicrhau darpariaeth Gymraeg ddigonol ar draws y sector breifat heb orfodaeth gyfreithiol.  Does dim un banc yn cynnig gwasanaeth bancio ar-lein ar eu gwefan na thrwy gyfrwng 'ap' yn Gymraeg, a hynny er gwaethaf y ffaith bod symudiad sylweddol tuag at y dull hwnnw o fancio dros bapurau a changhennau ... deddfu yw'r unig ffordd i sicrhau fod y gwasanaethau Cymraeg yn cael eu diogelu a'u datblygu. Mae hyd yn oed rhai banciau yn cytuno â’r syniad hwn... [Cyhoeddon ni] adolygiad o archfarchnadoedd, a ddangosodd yn glir nad yw nifer o'r prif gwmnïau yn y maes yn mynd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o sylwedd heb orfodaeth gyfreithiol. 

"[Rydyn ni] wedi cwrdd â chymaint o gwmnïau, megis Morrisons a Marks & Spencer, dros y blynyddoedd diwethaf. Er i ni lwyddo i argyhoeddi rhai unigolion o fewn y cyrff i fabwysiadu polisi, pan fo'r swyddogion hynny yn symud ymlaen mae'r polisi yn mynd yn angof ... Felly, er bod gan rai unigolion mewn nifer o gwmnïau gydymdeimlad, mae diffyg statud i sicrhau darpariaeth barhaol yn arwain at wasanaethau tameidiog, anghyson a gwan. 

"Nid oes yr un banc nac archfarchnad yn darparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn, ac nid yw datblygu gwasanaethau Cymraeg yn flaenoriaeth i’r un ohonynt. Nid yw cwmnïau'r sector breifat yn ymateb i’r ddyletswydd foesol sydd arnynt, felly mae’n rhaid rhoi dyletswydd gyfreithiol arnynt."

Ychwanegodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydyn ni'n awyddus i ddechrau trafodaeth ar beth yw'r ffordd orau i gryfhau hawliau iaith y cyhoedd er mwyn normaleiddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd. Rydyn ni'n falch bod pob un o'r pleidiau, gan gynnwys y Gweinidog dros y Gymraeg, yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer tymor y Llywodraeth newydd sy'n datgan yn glir eu bod am weld sefyllfa lle mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol o’r crud i’r bedd."

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal nifer o sesiynau ymgynghori ar eu cynigion, ac yn gofyn am sylwadau'r cyhoedd ar eu dogfen ymgynghorol erbyn 16eg Medi eleni.