Pa esiampl gan Gyngor Sir Penfro?

Yn sgil y ffaith bod Cyngor Sir Penfro yn bwriadu herio rhai o'r Safonau Iaith mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw at y ffaith bod dwy ysgol Gymraeg newydd i gael eu hagor, ac yn holi pa esiampl mae'r Cyngor ei hun yn ei osod.

Mae Comisynydd y Gymraeg wedi gosod disgwylidau ar bob awdurdod lleol i gydymffurfio â Safonau.

Dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith

Bydd ysgol gynradd yn Ninbych y Pysgod ac ysgol uwchradd yn Hwlffordd dros y blynyddoedd nesaf ond eto mae'r Cyngor yn gofyn i beidio gorfod cyflawni rhai Safonau elfennol. Pa argraff mae hynny'n rhoi? Mai iaith addysg yw'r Gymraeg ond fod popeth 'go iawn' yn digwydd yn Saesneg.

Rheswm y Cyngor dros beidio sicrhau bod eu ffrwd trydar a'u holl ddatganiadau wasg yw am nad oes siaradwyr Cymraeg ac mae'r Cyngor yn dweud nad oes modd cael gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Ble mae'r uchelgais? Mae cyfle gan y Cyngor fan hyn i newid iaith y Cyngor, yn raddol. Yn hytrach na mynd i'r afael â hynny mae'r Cyngor yn herio'r Safonau.”

Yr un yw neges y Gymdeithas i Gyngor Ceredigion, sydd yn bwriadu herio dwy Safon yn ymwneud â chyfarfodydd cyhoeddus a chyhoeddiadau cyhoeddus.

Ychwanegodd Bethan Williams:

Rydyn ni wedi bod yn galw ar Gyngor Ceredigion, fel Cyngor Sir Gâr, i symud i weithio'n Gymraeg ers ugain mlynedd a mwy; a'r cynghorau i gyd yn gwybod ers digon amser y byddai Safonau arnyn nhw. Pam aros nes bod rhaid gwneud felly?

Mewn cyfarfod diweddar o Gyngor llawn Ceredigion fe ofynnodd un Cynghorydd pam fod dogfen yn uniaith Saesneg gyda chrynodeb Cymraeg yn unig. Ymddiheuro wnaeth y swyddog cyfrifol ac arweinydd y Cyngor nad oedden nhw wedi eu cyfieithu. Nid cyfieithu popeth i'r Gymraeg ddylai Cyngor Ceredigion fod yn ei wneud, ond gweithio'n Gymraeg.

Y stori yn y wasg:

Cyngor Sir Benfro am herio 10 Safon Iaith - Golwg360

Cynghorau'n Gwrthwynebu Safonau - Newyddion BBC