Pantycelyn: Gohirio protest yn dilyn cyfarfod cadarnhaol

 

Mae myfyrwyr Cell Pantycelyn wedi penderfynu gohirio protest ynghylch Pantycelyn yn dilyn cyfarfod cadarnhaol gydag uwch swyddogion Prifysgol Aberystwyth heddiw (14 Hydref).

Roedd y myfyrwyr yn pryderu ynghylch yr ansicrwydd am ddyfodol y neuadd.

Meddai Jeff Smith, aelod o'r Gell a fu yn y cyfarfod:

"Dwi'n falch ein bod wedi cael addewid o amserlen o'r prif gamau allweddol i ail-agor y neuadd erbyn 2019, a bod swyddogion y brifysgol wedi addo cyfathrebu yn well gyda'r myfyrwyr a'r cyhoedd ar yr adeg dyngedfennol hon. Dyna rywbeth sydd wedi bod ar goll - a thynnu sylw at hynny oedd y bwriad yn y brotest roedden ni wedi ei threfnu yn ystod diwrnod agored y Brifysgol yfory (15/10)."

Meddai Manon Elin, a fu hefyd yn cynrychioli'r Gell yn y cyfarfod:

"Rydyn ni'n teimlo fod y cyfarfod wedi bod yn un buddiol iawn, gyda sicrwydd fod Pantycelyn ymhlith tair prif flaenoriaeth cyllido'r Brifysgol. Bydd cyfle gan y myfyrwyr newydd y flwyddyn nesaf i fyw yn neuadd Pantycelyn yn ystod eu trydedd flwyddyn, felly gobeithiwn y bydd y sicrwydd yma yn arwain at gynnydd yn nifer y myfyrwyr fydd yn dod i brofi cymuned Gymraeg y Brifysgol ym Mhantycelyn. Fyddwn ni ddim yn cynnal unrhyw ddigwyddiad yfory felly, ond byddwn ni'n parhau i gadw llygad ar y Brifysgol i sicrhau eu bod yn cadw at yr amserlen."

 

Llythyr Cell Pantycelyn at y Brifysgol yn dilyn y Cyfarfod:

Annwyl Dr Rhodri Llwyd Morgan a Miss Gwerfyl Pierce-Jones,

Yn gyntaf hoffwn ddiolch i chi am roi amser i gyfarfod â ni i drafod ein pryderon ynghylch Pantycelyn heddiw. Teimlwn i ni gael cyfarfod cadarnhaol a buddiol. Yn benodol, rydym yn falch o glywed bod Pantycelyn ymhlith tair prif flaenoriaeth cyllido'r Brifysgol.

Rydym hefyd yn falch i dderbyn yr ymrwymiad i gael amserlen o'r camau allweddol ar y daith i ail-agor y neuadd wedi i'r Bwrdd Prosiect gyfarfod o fewn y mis nesaf.

Trafodwyd dangos Pantycelyn i ddarpar fyfyrwyr yn ystod y diwrnodau agored. Credwn fod lle i chi hysbysebu'r Neuadd fel arf recriwtio cryf, gan y bydd cyfle gan y myfyrwyr fydd yn dechrau'r flwyddyn nesaf y cyfle i fyw ym Mhantycelyn yn ystod eu trydedd flwyddyn. Awgrymwn eich bod yn cynnal teithiau tywys o'r Neuadd, dangos lluniau o sut y bu'r neuadd a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Trafodwyd hefyd yr angen i newid geiriad yn natganiadau'r Brifysgol yn y dyfodol, i osgoi creu amheuaeth fod ail-agor y neuadd yn annhebygol. Awgrymwyd geiriad ar hyd y llinellau bod ail-agor Pantycelyn yn amodol ar ganiatâd i fenthyg arian gan HEFCW, yn hytrach nag yn amodol ar ganfod yr arian.

Rydym hefyd yn falch eich bod yn hapus i gyfathrebu yn fwy effeithiol gyda'r myfyrwyr, gan gynnwys drwy fynychu cyfarfodydd cyffredinol UMCA i'n diweddaru ac i ateb cwestiynau, ac y byddwch yn cynnal a chadw'r neuadd tra ei bod hi ar gau.

Gan y byddwch yn enwi'r Penseiri heddiw, mae'n gyfle euraid i chi dawelu ofnau ac amheuon myfyrwyr a'r cyhoedd, drwy ddarparu mwy o sicrwydd ynglŷn â dyfodol y neuadd.

Yn gywir,

Manon Elin a Jeff Smith

Cell Pantycelyn