Pantycelyn - Ymddygiad Prifysgol yn 'dwyllodrus'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r bygythiad diweddaraf i Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Dywedodd Ffred Ffransis llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  "Mae ymddygiad y Brifysgol yn dwyllodrus, ac yn codi cwestiynau difrifol am broffesiynoldeb a gonestrwydd eu swyddogion. Yn groes i ewyllys y myfyrwyr a phobl Cymru, mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau i geisio ei chau fel llety i fyfyrwyr. Ddylen nhw ddim cael gwneud hynny; a wnawn ni ddim gadael iddyn nhw wneud hynny chwaith.

"Dylai fod ymchwiliad allanol i'r modd y mae'r penderfyniad yn cael ei wneud cyn i'r Brifysgol gymryd unrhyw gamau pellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud creu canolfannau iaith yn flaenoriaeth - does dim canolfan Gymraeg bwysicach na Phantycelyn. ”