Parhau â "Chymraeg Ail Iaith": Amddifadu miloedd o bobl ifanc o'r Gymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru o "amddifadu cenhedlaeth arall o blant o'r Gymraeg" wrth benderfynu heddiw i barhau i ddysgu 'Cymraeg Ail iaith' i blant yn lle creu un cymhwyster i bob disgybl.

Ym mis Medi 2013, ysgrifennodd yr Athro Sioned Davies adroddiad a argymhellodd y dylai: "Llywodraeth Cymru ... adolygu’r rhaglen astudio Cymraeg, dros gyfnod o dair i bum mlynedd, a [dylai'r] cwricwlwm diwygiedig [gynnwys]: un continwwm o ddysgu Cymraeg... O ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith."

Mewn cyfarfod ac mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, dywedodd y Prif Weinidog y llynedd y byddai 'ddisodli Cymraeg ail iaith' yn y pen draw ynghyd â dileu'r ffin rhwng Cymraeg ail iaith a Chymraeg iaith gyntaf drwy greu "continwwm". Yn ogystal dywedodd ei fod "o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol."

Fodd bynnag, mewn llythyr a gyhoeddwyd ar wefan cymwysterau Cymru heddiw, dywed Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, wrth yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams eu bod yn cadw'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith: “... mae'n bwysig ein bod yn diwygio'r cymhwyster cyfredol. Cam dros dro yn unig ydyw fodd bynnag, tra fod y gwaith pwysig o ddatblygu'r cwricwlwm yn symud yn ei flaen.”

Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Mae'r penderfyniad yma yn mynd i amddifadu cenhedlaeth arall o blant o'r Gymraeg. Mae'n anghredadwy eu bod nhw'n gallu anwybyddu teimladau cryf cannoedd o bobl wnaeth ymateb I'r ymgynghoriad. Mae'n hollol annerbyniol ac yn dangos diffyg ewyllys a diffyg gweledigaeth gweision sifil a swyddogion i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen. Unwaith eto, maen nhw'n gadael plant i lawr drwy gadw system sydd eisoes wedi ei brofi yn fethiant. 

"Nid oes modd dileu Cymraeg Ail Iaith ar yr un llaw a diwygio'r cymhwyster 'Cymraeg Ail Iaith' ar y llaw arall. Naill ai eich bod yn ei ddileu, neu dydych chi ddim – mae mor syml â hynny. Maen nhw'n gwybod hynny'n iawn, ond yn lle gweithredu, maen nhw'n arafu yn ddiangen unwaith eto. 

"Pryderwn yn fawr fod gweision sifil ac asiantaethau eraill wedi gwneud ymdrech fwriadol i rwystro a gwanhau'r penderfyniad. Pryderwn yn fawr y gwelwn, yn y pendraw, barhau â chysyniad Cymraeg ail iaith. Mae hynny'n ddedfryd oes i 80% o'n pobl ifanc. Byddwn ni'n mynnu ymatebion gan Kirsty Williams yn ein cyfarfod gyda hi wythnos nesaf."

Bydd swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Kirsty Williams ddydd Iau nesaf (4:15pm, Dydd Iau, 28ain Gorffennaf).