Picedu gorsafoedd trên achos diffyg gwasanaethau Cymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi picedu gorsafoedd trên ym Mangor a Chaerfyrddin heddiw gan gwyno am y diffyg gwasanaeth Gymraeg.  

Bydd Safonau'r Gymraeg yn cael eu gosod ar gwmnïau trên a bws rhywbryd yn y misoedd nesaf, er nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pryd y bydd y dyletswyddau iaith yn cael eu pasio yn y Cynulliad.  

Mae Cymdeithas yr Iaith felly yn galw ar Drenau Arriva Cymru i weithredu ar y pwyntiau canlynol ar frys: 

  • Gwneud sgriniau ar blatfformau bob un o’u gorsafoedd yng Nghymru’n ddwyieithog. 

  • Gwneud yr holl sgriniau a chyhoeddiadau ar y trenau’n ddwyieithog. 

  • Gwneud eu holl ddeunyddiau, megis posteri a thocynnau, yn Gymraeg 

  • Sicrhau bod pob aelod o staff sy'n delio â chwsmeriaid yn medru cynnig gwasanaeth Cymraeg ac yn cyfarch pob cwsmer yn Gymraeg 

  • Sicrhau y darperir gwasanaeth wyneb yn wyneb cyflawn Cymraeg ym mhob swyddfa docynnau ac ar bob trên. 

Dywedodd Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith:  

 

"Mae'n glir nad oes ots gan Arriva na Network Rail am y Gymraeg, ac maen nhw'n anwybyddu cwynion cyson gan bobl am y diffygion di-ri. Mae oedi Llywodraeth Cymru rhag pasio'r Safonau yn annerbyniol ac yn tanseilio hawliau pobl i'r Gymraeg. Mae argymhellion yn eistedd ar ddesg y Gweinidog Alun Davies, ond, eto, dydyn ni ddim wedi clywed dim am bryd fydd yna bleidlais yn y Cynulliad.   

"Mae diffyg defnydd o’r Gymraeg gan Drenau Arriva Cymru yn warthus. Does gan y teithwyr ddim yr un hawliau ieithyddol a fyddent yn disgwyl mewn meysydd eraill. Cafodd Trenau Arriva Cymru £1.5bn o arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru rhwng 2007 a 2015. Oni ddylen ni allu disgwyl gwasanaeth cyflawn Cymraeg am yr holl arian cyhoeddus maen nhw'n ei dderbyn?"