Picedu Siopau: Galw am estyn y Mesur Iaith i weddill y sector breifat

Mae mudiad iaith wedi picedu archfarchnadoedd yng Nghaerdydd a Bangor heddiw oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg gan ddweud bod rhaid deddfu i sicrhau gwelliant.  

Gwrthdystiodd grŵp o ymgyrchwyr tu allan i siop Lidl yn ardal Sblot yng Nghaerdydd, sydd newydd gael ei ailaddurno, a siop M&S ym Mangor heddiw. Daliodd y protestwyr arwyddion yn mynnu 'Safonau Iaith i'r Sector Breifat' fel rhan o ymgyrch y mudiad i gryfhau'r ddeddf iaith.  

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 dros y blynyddoedd nesaf. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau y dylid sefydlu hawliau cyffredinol i'r Gymraeg ar wyneb y ddeddf newydd, ynghyd â'i hestyn i weddill y sector breifat  

Yn siarad ar ôl y protestiadau, dywedodd Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Mae nifer fawr o siopau mawrion ac archfarchnadoedd yn anwybyddu anghenion y Gymraeg ledled Cymru. Mae nifer o enghreifftiau, fel Lidl a M&S, lle mae darpariaethau Cymraeg archfarchnadoedd wedi lleihau wrth iddynt agor neu ail-frandio eu siopau. Byddai deddfwriaeth yn sicrhau na fyddai hyn yn digwydd, a fyddai yn y pendraw yn arwain at welliant sylweddol.   

"Gan fod archfarchnadoedd yn rhan o fywyd bob dydd llawer o bobl, mae'n bwysig iawn bod modd siopa yn Gymraeg. Rydyn ni'n gobeithio bydd y Llywodraeth yn manteisio ar y cyfle i gynnwys archfarchnadoedd, a gweddill y sector breifat, yng nghwmpas Mesur y Gymraeg wrth iddynt fynd ati i'w gryfhau.  

Mae adroddiad diweddar Comisiynydd y Gymraeg wedi canfod bod mwyafrif Cymry Cymraeg a di-Gymraeg yn hoffi gweld archfarchnadoedd yn defnyddio'r Gymraeg ac eisiau gweld mwy o ddefnydd. Ychwanegodd Manon Elin: 

"Mae'r ymchwil rydyn ni wedi ei gyhoeddi, ac adroddiad diweddar y Comisiynydd, yn dangos na fydd nifer o'r cwmnïau mawrion hyn yn darparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn oni bai fod gorfodaeth arnynt i wneud hynny. Dyna pam fo rhaid deddfu, yn hytrach na dibynnu ar ewyllys da." 

Mae'r gyfraith bresennol yn caniatáu gosod dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar cwmnïau ynni, dŵr, trafnidiaeth a thelathrebu, ond nid busnesau preifat eraill.