Polisi Iaith Ynys Môn: Colli cyfle i wneud y Gymraeg yn iaith gwaith

Mae polisi iaith newydd arfaethedig gan gyngor Ynys Môn yn peryglu defnydd o'r Gymraeg, medd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg cyn i gynghorwyr yr Ynys drafod y mater heddiw (dydd Llun, 25ain Ebrill).

Bydd cynghorwyr Ynys Môn yn trafod mabwysiadu polisi iaith newydd ddydd Llun a fyddai'n golygu rhoi statws swyddogol i'r Saesneg. Mewn llythyr at y cyngor, mae'r mudiad iaith yn rhybuddio bod y polisi yn camddeall ac yn camddehongli'r ddeddfwriaeth iaith ddiweddaraf, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. 

Dyw'r ddeddfwriaeth iaith a ddaeth i rym yn 2011 ond yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg, ac mae'n sefydlu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Fodd bynnag, mae polisi arfaethedig Ynys Môn yn rhoi statws swyddogol i'r Saesneg ac yn datgan y dylid trin y ddwy iaith yn gyfartal.

Mewn llythyr at arweinydd Cyngor Ynys Môn, mae Menna Machreth, cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar y Cyngor i gywiro'r gwallau ac i gydio yn y cyfle i wneud y Gymraeg yn iaith gwaith swyddogol:

"Ymddengys eich bod yn camgymryd hen egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 o drin y ddwy iaith ar sail 'cydraddoldeb', yn hytrach na 'pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg' fel sy'n ofynnol gan y Mesur Iaith cyfredol...Mae'n amlwg fod y camgymeriad hwn wedi digwydd am i [gymalau'r polisi] gael eu cymryd yn syth o'ch hen Gynllun Iaith – heb eu haddasu i'r fframwaith cyfreithiol presennol.

"Mae'n hanfodol bwysig felly fod y Polisi sy'n ymgorffori'r cyfrifoldebau newydd sydd arnoch o dan y Mesur yn llawn gydnabod ac yn adlewyrchu fframwaith cyfreithiol cyfundrefn Safonau'r Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn hyn o beth, hoffwn dderbyn cadarnhad y byddwch yn cywiro'r gwallau hyn ar unwaith, gan sicrhau bod yr arweiniad cywir a diweddaraf ar gael i alluogi swyddogion ac Aelodau'r Cyngor i gydio ynddo i'w arfogi gyda'r gweithredu, gan roi blaenoriaeth i hyrwyddo'r Gymraeg yn eu gwaith

"O ran cynnwys y Polisi ei hun, mae'n bwysig bod egwyddor gwaelodol Mesur y Gymraeg yn cael ei ategu a'i adlewyrchu'n llawn ynddo mewn llythyren yn ogystal ag ysbryd. ... Disgwyliwn eich gweld yn cydio yn y cyfle nawr drwy gadarnhau y daw'r Gymraeg yn unig iaith weinyddu mewnol y Cyngor, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Ngwynedd, er enghraifft....

Caiff y Cyngor ei feirniadu hefyd gan fod ei bolisi iaith arfaethedig yn gofyn i fudiadau Cymraeg gyflwyno gohebiaeth ysgrifenedig i gyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor yn Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg:

"Ni ddylech ... danseilio defnydd cymunedol y Gymraeg drwy orfodi'r Saesneg ar fudiadau Cymraeg, drwy fynnu bod pob adroddiad a dogfennaeth a gyflwynir i gyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor yn ddwyieithog a hynny mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn iaith y mwyafrif..."

"... Byddai unrhyw Bolisi gan y Cyngor sy'n tanseilio defnydd y Gymraeg, yng ngoleuni cyfundrefn gyfreithiol newydd sydd wedi'i chynllunio gyda'r nod o hyrwyddo hynny, yn gwbl annerbyniol. Mae dyletswydd arnoch i barhau i gynnig arweiniad i sefydliadau cyhoeddus a phreifat ym Môn a thu hwnt o ran sut y dylid mynd ati'n frwd i hyrwyddo'r Gymraeg, ac edrychwn i dderbyn cadarnhad ar fyrder mai dyma a wnewch."

Mae'r mudiad iaith wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd gyda phryderon tebyg am eu polisi iaith newydd hwythau yn dilyn dadl ddiweddar yn y sir honno.