Protest yn erbyn arwydd uniaith Saesneg gorsaf trenau Caerdydd

Mae mudiad iaith wedi gwrthdystio y tu allan i orsaf drenau Heol y Frenhines, Caerdydd heddiw i fynnu bod Network Rail yn newid prif arwydd yr orsaf sy’n uniaith Saesneg ar hyn o bryd. 

Mae Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn llythyru â chwmni Network Rail am ei fethiant i gydymffurfio â gofynion iaith sylfaenol fel yr arwydd. Tynnodd y brotest sylw hefyd at y methiant i ddiogelu rhai o hawliau iaith pobl Cymru mewn sefyllfaoedd o’r fath, yn rhannol oherwydd yr oedi o ran gwneud cynnydd gyda gweithredu’r hawliau iaith newydd - y Safonau. 

Roedd y galw i newid yr arwydd ar yr orsaf yn un o ofynion Siarter Caerdydd, dogfen yn amlinellu gweledigaeth Cell Caerdydd ar sut gellir gwella sefyllfa’r iaith yn y brifddinas. Bydd y Gell yn cwrdd ag arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, yn fuan i drafod materion fel cynllunio, datblygiadau newydd yn y ddinas a statws y Gymraeg. 

Mewn llythyr at Network Rail cyn y brotest, dywedodd Carl Morris, Cadeirydd Cell Caerdydd, y gangen leol o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni'n cynnal protest gan fod nifer o drigolion Caerdydd wedi cael eu siomi gan arwydd yr orsaf. Drwy osod yr arwydd yno, mae Network Rail yn dangos diffyg parch llwyr at iaith swyddogol ein gwlad, iaith mae miloedd o’r cymudwyr a’r ymwelwyr sy’n pasio drwy’r orsaf yn ei defnyddio yn eu gwaith a’u bywydau bob dydd. Ar ben hynny, maen nhw wedi methu hyd yn oed â chydymffurfio â’u canllawiau dylunio eu hunain, sy’n pwysleisio pwysigrwydd gorsafoedd sy’n parchu’r amgylchedd a’r cymunedau maen nhw wedi’u lleoli ynddynt.

“Rydyn ni’n credu bod hyn yn rhan o batrwm o ddiffyg gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, a diffyg parch at yr iaith, drwy’r holl sector rheilffyrdd yng Nghymru. Gorsaf Heol y Frenhines, wrth gwrs, oedd yr orsaf lle cwynodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei hun am ddiffyg cyhoeddiadau Cymraeg ar y platfform. Rydyn ni’n credu ac yn mynnu y dylai fod modd i ddinasyddion Cymru ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r arwydd yma’n nodweddiadol o’r nifer o ffyrdd, mawr a bychain, y mae rhwystrau yn cael eu rhoi yn ffordd y rhai, fel ni, sydd eisiau byw yn Gymraeg yn ein prifddinas.”