Pryder am effaith iaith cynllun datblygu lleol Gwynedd ac Ynys Môn

Ymgyrchwyr yn gwrthwynebu ymgais i hepgor amodau iaith ar Wylfa B 

Bydd ymgyrchwyr yn lleisio eu gwrthwynebiad i gynllun datblygu lleol Gwynedd ac Ynys Môn mewn gwrandawiad cyhoeddus heddiw 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu'n hallt asesiad effaith iaith gwallus swyddogion cyngor Gwynedd o'r cynllun datblygu gan rybuddio y bydd y cynllun i adeiladu wyth mil o dai yn sir yn niweidiol iawn i'r iaith.  

Meddai Menna Machreth, Cadeirydd rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Rydyn ni'n bryderus iawn am yr effaith y caiff adeiladu cymaint o dai ar gyflwr y Gymraeg yn lleol. Rydym wedi pwysleisio dro ar ôl tro fod problemau lu gyda'r ffordd yr aed ati i asesu effaith y cynllun datblygu lleol ar y Gymraeg, ac mae'n rhyfeddol iawn eu bod nhw'n parhau i anwybyddu barn cynghorwyr etholedig sydd wedi gofyn iddyn nhw ail-ystyried eu cynlluniau." 

Bydd aelodau mudiad PAWB hefyd yn ymuno â'r Gymdeithas i wrthwynebu ymgais Horizon, y cwmni sy'n ceisio adeiladu atomfa niwclear newydd yn Ynys Môn, i gael gwared ar amodau iaith y datblygiad arfaethedig. Ychwanegodd Menna Machreth: 

"Mae'r datganiadau diweddar Horizon yn cadarnhau mai effaith negyddol caiff Wylfa B ar y Gymraeg a'n cymunedau - dyna pam mae'r cwmni eisiau gwanhau amodau iaith. Mae'n glir nad swyddi i bobl leol fyddai'n dod yn sgîl y datblygiad hynod beryglus yma, ond elw i gwmni ar gefn cymorthdâl enfawr trethdalwyr. 

"Dyw pobl Ynys Môn na phobl y Gogledd yn fwy cyffredinol ddim yn gallu fforddio peryglu ein bywydau, ein hamgylchedd a chyflwr y Gymraeg er budd prosiect sy'n anfforddiadwy. Yn lle, dylen ni fod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddol go iawn sy'n llesol i'n heconomi leol, yr iaith a'n planed."