Pryder am gyllideb S4C - ymateb

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r pryderon diweddaraf am gyllideb S4C.  

Dywedodd David Wyn Williams, Is-Gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith: 

"Rydyn ni wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant newydd am y materion hyn. Gwnaed toriadau o 93% i grant Llywodraeth Prydain i'r sianel yn barod, a hynny'n benderfyniad tu ôl i ddrysau caeedig heb ymgynghori ag unrhyw un yng Nghymru. Roedd yn benderfyniad annemocrataidd ac yn groes i farn gwleidyddion o Gymru. Rydyn ni'n mawr obeithio bod Llywodraeth Prydain a'r BBC wedi dysgu'r gwersi o'r diffyg ymgynghori a thryloywder yn ôl yn 2010. Mae angen sicrhau bod deialog rhwng Llywodraeth Prydain, cymdeithas sifil a gwleidyddion o Gymru am y materion hyn."