Pryder am oedi o ran gwasanaethau Cymraeg y sector breifat

Cyhuddo Comisiynydd y Gymraeg o lusgo ei thraed

Mae pryderon am oedi o ran sicrhau gwasanaethau Cymraeg gan gwmnïau mawrion, megis ffonau symudol Cymraeg, wedi cael eu codi mewn protest ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi'r grym i osod dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar gwmnïau ffon, band eang, bws, trên, ac ynni. Fodd bynnag, tra bod amserlen yn datgan erbyn pryd y bydd rhaid i gyrff y sector gyhoeddus gadw at yr hawliau iaith newydd, does dim amserlen wedi ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch pryd y mae cwmnïau mawrion fel cwmnïau ffon ac ynni yn mynd i ddod o dan y fframwaith newydd. Cafodd Meri Huws ei phenodi fel Comisiynydd cyntaf y Gymraeg ym mis Ebrill 2012, dros 3 blynedd yn ôl.

Mewn llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg, mae Manon Elin, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn honni bod methiant Meri Huws i gyhoeddi amserlen yn anghyfreithlon:

"Credwn fod eich prif nod fel y datganir ym Mesur y Gymraeg yn ei gwneud yn angenrheidiol i chi wneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod y cwmnïau hyn yn ddarostyngedig i'r Safonau cyn gynted â phosibl.

"Rydym wedi ysgrifennu atoch sawl gwaith ynglŷn â hyn, ac mae'n rhaid dweud ein bod ni fel mudiad yn hynod o rwystredig bellach nad ydych chi wedi gweithredu'r pwerau sydd gyda chi yn y meysydd pwysig hyn....

"Sylwaf eich bod wedi cwrdd â'r Mobile Broadband Group sawl gwaith i drafod y Safonau. Hoffwn eich atgoffa nad ydych yn atebol i'r cwmnïau hyn, a'ch bod o dan ddyletswydd statudol i wasanaethu'r Gymraeg a'i buddiannau."

Yn siarad am y brotest, meddai Manon Elin:

"Mae'r cyhoedd yn goddef diffyg gwasanaethau Cymraeg oherwydd oedi di-angen fel hyn gan y Comisiynydd. Does dim ffôn symudol Cymraeg oherwydd ei bod hi'n llusgo ei thraed. Mae hi wedi defnyddio sawl esgus gwahanol dros y misoedd diwethaf; rydyn ni wedi holi droeon, ond nid ydym wedi cael atebion wrthi. Mae'n hen bryd iddi weithredu fel bod pobl yn gallu byw yn Gymraeg mewn rhagor o feysydd yn eu bywydau. Dyw hynny ddim yn ormod i'w ddisgwyl. Wedi'r cyfan, mae na ddyletswydd statudol arni i'w wneud e."

Mwy o luniau yma

Y stori yn y wasg -

Pryder Tros 'Fethiant' Comisiynydd y Gymraeg - Golwg 360 27/05/15