Rali Llangefni: Cyflwyno 'coeden twf yr iaith' i Gyngor Môn

38% o ddisgyblion yr ynys yn derbyn addysg ail iaith yn bryder medd ymgyrchwyr 

Mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno coeden i gyngor Sir Fôn yn Llangefni gan alw ar i'r awdurdod lleol 'blannu'r hedyn ar gyfer twf yr iaith yn ei strategaeth iaith'.   

 

Mae tua 38% o bobl ifanc yr ynys yn cael ei asesu ar lefel Cymraeg ail iaith yn hytrach nag iaith gyntaf yn ôl cynllun strategol y cyngor ar gyfer y Gymraeg mewn addysg. Bydd y siaradwyr yn y rali yn y dref yn galw am addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bob disgybl ar yr ynys er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg.  

 

Ymysg siaradwyr y rali yng nghanol dref Llangefni oedd y Prifardd Cen Williams, y Cyng. Carwyn Jones, o Gyngor Môn; Gwion Morris Jones; Paul Magee, disgybl mewn ysgol leol, a Siân Gwenllian AC. Yn siarad am bwysigrwydd y digwyddiad, dywedodd Menna Machreth, cadeirydd rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:     

 

“Os yw'r Gymraeg i ffynnu yn Ynys Môn, mae'r cyngor, sydd wrthi'n plannu’r hedyn nawr, gyda’i strategaeth iaith, angen ei dyfrhau a’i dyfu. Byddwn ni'n cadw llygad barcud ar y cyngor i weld a ydyn nhw'n gweithredu yn unol â'u hymrwymiadau dros y misoedd i ddod cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r sir fis Awst flwyddyn nesaf.   

 

"Allwn ni ddim parhau â system addysg sy'n amddifadu cymaint o blant o'r gallu i fyw eu bywydau yn Gymraeg. Mae cyfle i'r sir ddilyn arweiniad Sir Gaerfyrddin a symud at addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bob un plentyn. A chan fod Llywodraeth Cymru rwan yn datgan eu bod yn bwriadu ddiddymu'r Gymraeg fel ail iaith, mae cyfle gan y Cyngor i symud pob un plentyn at lefel iaith gyntaf dros y cwpl o flynyddoedd nesaf. Ac os daw nifer o ddatblygiadau i Ynys Môn, mae'n rhaid i'r system addysg allu cymhathu'n effeithiol iawn plant teuluoedd sy'n symud i mewn."   

Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Arfon Sian Gwenllian: 

"Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi ei fwriad i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Mae'n rhaid cael cynllun sy'n egluro sut mae am wneud hyn gan egluro'n fanwl sut y bydd yn creu'r cynnydd enfawr, cyflym yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen. Mae'n rhaid cael cynllun gweithredu clir a cherrig milltir penodol ar y daith. Fel arall, dyhead niwlog di-werth yw'r nod miliwn siaradwyr. Mae amser yn brin.  Rhaid cael gweithredu cyn ei bod yn rhy hwyr." 

Ychwanegodd Gwion Morris Jones, disgybl 17 mlwydd oed sy'n mynychu Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch:   

 

"Yn fy marn i, addysg Gymraeg yw allwedd achub yr iaith. Mae dulliau trochi wedi eu profi'n llwyddiannus iawn yn nifer o rannau o'r wlad. Dylen ni ei ystyried fel rhywbeth di-gwestiwn ar draws y Gogledd. Dylai addysg cyfrwng Cymraeg effeithiol fod yn ddiamod; rhywbeth angenrheidiol i bob plentyn. Mae addysg Gymraeg wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi ac wedi fy nghryfhau i fel unigolyn. Dydy o ddim yn hawdd weithiau achos bod y meddylfryd dal i fod y dylai pethau ffurfiol fod yn Saesneg. Ond mae'r Gymraeg wedi agor drysau i mi ac wedi rhoi cyfleoedd fel gweithgareddau'r Urdd ac eraill." 

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi cwrdd â swyddogion y Cyngor nifer o weithiau i drafod ei strategaeth iaith ac yn mynychu cyfarfodydd fforwm iaith y sir.