S4C: Llythyr brys at y Llywodraeth am y Gyllideb

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder am oblygiadau'r Gyllideb i S4C yn dilyn adroddiadau y bydd y BBC yn gyfrifol am ariannu trwyddedau teledu yn rhad ac am ddim i bobl dros 75 mlwydd oed. 

Yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r sylwadau prynhawn yma yn achosi llawer o bryder. Dyw cyflwyno mwy o doriadau i S4C ddim yn opsiwn."

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale a anfonwyd yn gynharach yn y dydd, ysgrifennodd Jamie Bevan: 

"Yn ôl yn 2010, gwnaed penderfyniad ynghylch ariannu S4C heb unrhyw ymgynghori â phobl Cymru na Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Fel y gwyddoch, gwnaed toriad o 93% i'r grant gan y Llywodraeth i'r sianel, a hyd yn oed o ystyried cyfraniad ariannol drwy'r ffi drwydded, bu toriad o tua 40% i gyllideb y sianel dros y pum mlynedd diwethaf.   

"Pryderwn yn fawr fod y gyllideb ddydd Mercher eto yn mynd i gael sgil effaith ar S4C nas trafodwyd ymlaen llaw gyda phobl Cymru. Erfyniwn arnoch i sicrhau nad oes newidiadau i gyllideb na strwythurau S4C heb ymgynghoriad llawn.    

"Nid sianel gyffredin yw S4C, ond darlledwr a sefydlwyd gan ymgyrch dorfol gyda nifer o bobl yn aberthu eu rhyddid i ddod â hi i fodolaeth. Tra bod y cyfryngau Saesneg dros y 20 mlynedd diwethaf wedi tyfu'n sylweddol, mae siaradwyr Cymraeg ar draws Prydain yn parhau i orfod dibynnu ar un sianel yn unig.