S4C yn 'ymylol' i'r papur gwyrdd

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i gyhoeddiad papur gwyrdd Llywodraeth Prydain am siarter y BBC. 

Meddai Aled Powell, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Wrth edrych ar yr ymgynghoriad, mae S4C a'r Gymraeg yn edrych yn ymylol i'r ddogfen. Mae'r Llywodraeth eisoes wedi gwneud toriadau enfawr ac sy'n peryglu bodolaeth ein hunig sianel Gymraeg. Mae’r sianel, a'r Gymraeg, eisoes wedi talu pris anghymesur am y dirwasgiad. Nawr bod y dirwasgiad drosodd, pam nad oes awgrym bod cyllideb y sianel yn mynd i ddychwelyd i'r lefelau cyn y toriadau? Dylai'r Llywodraeth adfer y buddsoddiad yn S4C i'r lefelau a roddwyd cyn y dirwasgiad ac ail-osod fformiwla ariannu'r sianel mewn statud. Dyna sut y bydd yn gallu bod yn annibynnol ar unrhyw ddarlledwr arall, yn ariannol, yn strategol ac yn olygyddol."



"Nid sianel gyffredin yw S4C, ond darlledwr a sefydlwyd gan ymgyrch dorfol gyda nifer o bobl yn aberthu eu rhyddid i ddod â hi i fodolaeth. Dyna'r hyn mae angen i'r Llywodraeth ei ddeall. Tra bod y cyfryngau Saesneg dros y 20 mlynedd diwethaf wedi tyfu'n sylweddol, mae siaradwyr Cymraeg ar draws Prydain yn parhau i orfod dibynnu ar un sianel yn unig."