Safonau Iaith Cyngor Sir Powys – barod i ymyrryd

Mae'r Gymdeithas wedi datgan siom gyda bwriad Cyngor Sir Powys i herio'r Safonau Iaith. Mae cyfarfod o gabinet y Cyngor wedi derbyn argymhelliad heddiw (Ionawr 26ain, 2016) i herio'r safonau sy'n rhoi hawl i'r cyhoedd defnyddio gwasanaethau dros y ffôn a derbyn dogfennau yn Gymraeg. 

O dan Fesur y Gymraeg, mae'r cynghorau yn gallu herio'r gofynion ar y sail nad ydyn nhw'n rhesymol a chymesur, ond yn ystod achos gerbron y Tribiwnlys mae modd i drydydd partïon gymryd rhan. Mae'r Gymdeithas wedi dweud y bydden nhw'n dadlau nad yw'n rhesymol i bobl a gweithwyr gael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg.   

Meddai Elwyn Vaughan, sy'n aelod o ranbarth Powys y Gymdeithas ac yn aelod o'n Senedd:

"Rydym yn croesawu penderfyniad y cabinet i sefydlu ysgol Gymraeg yn y Trallwng heddiw – wedi blynyddoedd o alw amdani'n lleol –  ond yn hynod siomedig gyda'r penderfyniad i herio rhai o Safonau'r Gymraeg. Os yw Cyngor Sir Powys o ddifri ynglŷn â sicrhau twf yn y Gymraeg, mae'n rhaid iddynt ddeall fod yn fater fwy nag addysg – mae'n rhaid addasu'r ffordd mae'r sefydliad yn cael ei weinyddu. Dylai fod addysg Gymraeg i bawb ym Mhowys, ond dylai fod symudiad tebyg tuag at wneud y Gymraeg yn iaith gwaith i bawb hefyd. Drwy herio'r Safonau'r, mae'r cyngor mewn perygl y bydd yn cadarnhau'r camsyniad mai iaith ar gyfer ysgol yn unig yw eu bwriad ar gyfer y Gymraeg."

"I gynghorau sir, rhan o bwrpas y safonau yw cyflawni'r hyn maen nhw wedi bod yn anelu at ei gyflawni ers blynyddoedd – mewn rhai meysydd byddai camau bach ymlaen, ond mewn sawl maes prin fod y Safonau'n gofyn i'r awdurdodau wneud llawer mwy na'u cynlluniau iaith. Mae 'na beryg na fydd camu 'mlaen a datblygu gwasanaethau Cymraeg cyflawn felly.

"Dyna pam rydym yn barod i ymyrryd – rydym yn ysgrifennu at y Cyngor i esbonio y bydd y Gymdeithas yn ystyried ymuno mewn unrhyw achos – ac rydym hefyd wedi gofyn i Comisiynydd y Gymraeg gryfhau'r Safonau"

Cyhoeddon ni ym mis Tachwedd y bydden ni'n ystyried ymyrryd ble mae Cyngor Sir yn herio'r safonau http://cymdeithas.cymru/newyddion/ystyried-ymyrryd-yn-gyfreithiol-os-yw-...

Cyhoeddodd Cangen Maldwyn y Gymdeithas ddogfen weledigaeth gydag argymhellion manwl ar gyfer Cyngor Powys mewn protest ar faes yr Eisteddfod ym Meifod eleni

http://cymdeithas.cymru/dogfen/drafft-argymhellion-i-weithgor-iaith-powys