Strategaeth Miliwn – ymateb i adroddiad pwyllgor

Mae mudiad iaith wedi dweud bod adroddiad pwyllgor y Cynulliad yn 'gyfraniad pwysig i'r ddadl' ynghylch cyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. 

Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg weledigaeth o'r enw 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg' a osododd tri phrif nod i bolisi'r Llywodraeth ddatganoledig: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn; atal yr allfudiad a chynnal cymunedau; a defnyddio’r Gymraeg ymhob rhan o fywyd.  

Cafwyd cefnogaeth i dri phrif nod y weledigaeth gan y 4 prif blaid wleidyddol cyn etholiadau'r Cynulliad, a bellach mae'n bolisi Llywodraeth Llafur Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

"Ar y cyfan, rydym yn croesawu'r adroddiad fel cyfraniad pwysig i'r ddadl ynghylch y strategaeth iaith. Mae bellach bron i ddwy flynedd ers i ni gyhoeddi ein gweledigaeth 'miliwn' a oedd yn gofyn i'r Llywodraeth fabwysiadu tri phrif nod: creu miliwn o siaradwyr Cymraeg; atal yr allfudiad; a sicrhau defnydd y Gymraeg ym mhob maes bywyd. 

"O ran y gyfundrefn addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y synau iawn: maent yn mynd i ddileu Cymraeg Ail Iaith a sefydlu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021 ac maen nhw wedi sôn am flaenoriaethu'r gweithlu addysg. Y prawf nawr yw'r gweithredu. Y nod heb os yw sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn medru'r Gymraeg a sicrhau bod ysgol cyfrwng Cymraeg o fewn cyrraedd i bob disgybl. Mae angen newidiadau radical os rydym i lwyddo. Mae'n bwysig bod y gwleidyddion yn sylweddoli bod symud ysgol lan y continwwm o ran darparu fwyfwy drwy gyfwng y Gymraeg yn gorfod bod yn rhan ganolog o unrhyw strategaeth i dyfu'r iaith.  

"Mae modd dadlau bod pob strategaeth iaith flaenorol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi methu oherwydd diffyg gweithredu - allwn ni ddim fforddio un arall. Mae'r nod o greu'r filiwn o siaradwyr yn hollol bosib ei gyflawni os yw'r gweithredu'n ddigonol. Os gwelwn ni hynny, rydyn ni'n ffyddiog y gwelwn ni ymhell dros filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a hynny cyn 2050."